Carfan Cymru: Enwi Joe Low, Neco Williams a David Brooks

  • Cyhoeddwyd
Neco Williams, David Brooks a Tom LockyerFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neco Williams (chwith) a David Brooks (canol) wedi'u cynnwys, ond mae Tom Lockyer (dde) allan

Mae Neco Williams a David Brooks wedi'u henwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol Euro 2024 yn erbyn Armenia a Thwrci fis Mehefin.

Ond mae'r amddiffynwr Tom Lockyer wedi ei adael allan ar ôl iddo lewygu a'i gludo i'r ysbyty ym muddugoliaeth Luton dros Coventry yn y gemau ail gyfle dros y penwythnos.

Wrth i Rob Page gyhoeddi'r garfan o 25 ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, bydd un wyneb newydd wrth i Joe Low ymuno am y tro cyntaf.

Mae Low, 21, yn chwarae i Bristol City ond fe dreuliodd ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Walsall yn Adran Dau.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joe Low yn fab i Josh Low, a chwaraeodd dros dîm dan-21 Cymru

Ffynhonnell y llun, Dafydd Owen/Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rob Page ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddydd Mawrth wrth gyhoeddi'r garfan

Roedd Rob Page eisoes wedi dweud y byddai Brooks, 25, yn cael ei ddewis ar gyfer gemau'r haf ar ôl dychwelyd i dîm cyntaf Bournemouth yn y Premier League.

Mae Williams hefyd wedi ei ddewis er iddo dorri ei ên fis Ebrill, tra fod Brooks yn ôl am y tro cyntaf ers gwella o ganser.

Mae tri chwaraewr arall heb gap wedi'u cynnwys, sef Luke Harris o Fulham, Liam Cullen o Abertawe a Morgan Fox, sydd ar hyn o bryd heb glwb ar ôl cael ei ryddhau gan Stoke City.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neco Williams wedi torri ei ên tra'n chwarae i'w glwb, Nottingham Forest, ar 26 Ebrill

Mae is-gapten Cymru Ben Davies a'r golwr profiadol Wayne Hennessey yn eu holau ar ôl gorfod tynnu'n ôl o'r garfan fis Mawrth.

Hefyd yn dychwelyd mae Brennan Johnson, a hefyd fethodd y gemau rheiny oherwydd anaf.

Y garfan yn llawn

Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Sheffield United), Joe Rodon (Rennes - ar fenthyg o Tottenham Hotspur), Ben Cabango (Abertawe), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Low (Bristol City), Connor Roberts (Burnley), Morgan Fox (heb glwb), Neco Williams (Nottingham Forest), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Ethan Ampadu (Spezia - ar fenthyg o Chelsea), Joe Morrell (Portsmouth), Jordan James (Birmingham City), Dan James (Fulham - ar fenthyg o Leeds United), Nathan Broadhead (Ipswich Town), Aaron Ramsey (OGC Nice), Harry Wilson (Fulham), Ollie Cooper (Abertawe), Luke Harris (Fulham), Brennan Johnson (Nottingham Forest), David Brooks (Bournemouth), Liam Cullen (Abertawe), Kieffer Moore (Bournemouth), Tom Bradshaw (Milwall).