Y menopos: 'Angen addysgu meddygon yn well'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Wynedd sydd wedi dioddef yn hir gyda'i symptomau wrth fynd trwy'r menopos yn dweud na ddylai menywod orfod "dioddef yn dawel".
Dechreuodd Heulwen Jones-Griffiths, 51, o'r Groeslon ger Caernarfon, brofi symptomau menopos yn 2018 ond ni chafodd HRT ar bresgripsiwn gan y GIG am bron i bum mlynedd.
Mae'n dweud bod angen gwella'r hyfforddiant i feddygon teulu a gwella'r gefnogaeth i fenywod sy'n mynd trwy'r menopos.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae cynllun ar y gweill i wella gofal, triniaeth a chymorth i gleifion y menopos.
'Person gwahanol'
Wrth ddisgrifio'i phrofiad o fynd trwy'r menopos, dywedodd Heulwen Jones-Griffiths ei bod yn meddwl ei bod "yn colli ei phwyll yn llwyr" pan ddaeth profion gwaed yn ôl yn normal.
"Mwyaf sydyn, mae rhywbeth erchyll yn eich taro chi," meddai. "Dwi'n cofio dreifio ar hyd lôn a gweld lori a meddwl 'dwi ddim eisiau brifo'r dreifar yna felly gwell fi beidio tynnu fyny o'i flaen o'.
"Doeddwn ni ddim eisiau gwneud dim byd amlwg, ac eisiau i 'nheulu feddwl mai damwain oedd o.
"Mi roedd o'n ddychrynllyd, am ei fod o'n dod drostoch chi mor sydyn.
"Dwi'n cofio eistedd yn fy ngwely yn crio am saith o'r gloch y nos a fy merch yn dweud wrtha i: 'Dydy hyn ddim yn normal Mam'."
Ar ôl bod at ei meddyg teulu ar fwy nag un achlysur, a gofyn i weld nyrs oedd â mwy o arbenigedd ar y menopos, fe gafodd Heulwen bresgripsiwn o HRT ac o fewn wythnosau roedd hi'n teimlo llawer gwell.
Mae HRT yn gyfuniad o feddyginiaethau sy'n ychwanegu hormonau fel estrogen - sy'n cwympo yn ystod y menopos - i'r gwaed ac sy'n helpu i leddfu symptomau.
Fe gafodd presgripsiwn o HRT ei roi i 274,000 o gleifion yng Nghymru yn y 12 mis diwethaf o gofnodion - cynnydd o bron i 40% ar y flwyddyn flaenorol, gyda nifer y presgripsiynau yn uwch nag ar unrhyw adeg ers 2003/04.
"Dwi ddim yn 'nabod y person yna ddim mwy," meddai Heulwen, wrth adlewyrchu ar sut oedd hi yn ystod y cyfnod hwnnw.
"Dwi hefyd yn meddwl doeddwn ni ddim yn meddwl yn strêt yn y cyfnod yna oherwydd symptomau'r menopos.
"Mae angen addysgu meddygon a hyfforddi mwy am y menopos. Hefyd, dydy'r prawf gwaed ddim yn gweithio - dydy'r menopos a lefelau'r hormonau ddim yn beth du a gwyn sy'n gallu cael eu profi ar bapur.
"Mae'n bwysig ofnadwy [i gofio], pan mae dynes yn mynd at feddyg neu nyrs gyda symptomau, bod misoedd o ddirywiad yn sut mae hi'n teimlo cyn bod hi'n gwthio ei hun trwy ddrysau'r feddygfa yna.
"Mae'n rhaid iddyn nhw gael eu cymryd o ddifri' o'r cychwyn cyntaf yna ac mae'n rhaid iddyn nhw gael eu clywed."
Beth yw symptomau'r menopos?
Mae'r menopos yn rhan o'r broses naturiol o heneiddio i fenywod, pan fydd yr ofarïau yn rhoi'r gorau i ryddhau wyau, ac mae lefelau hormonau estrogen, progesteron a thestosteron yn disgyn.
Yr oedran cyfartalog mae menyw yn mynd drwy'r menopos yw 51, ond gall ddigwydd yn gynharach.
Peri-menopos yw'r cyfnod pontio i'r menopos, gyda rhai yn profi'r symptomau yna yn eu 30au.
Mae effeithiau'r menopos yn gallu bod yn ddifrifol, ond i eraill does dim symptomau o gwbl.
Fe gafodd adroddiad gan Lywodraeth Cymru, sy'n nodi'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o fewn y gofal i fenywod, ei gyhoeddi ym mis Chwefror eleni.
Ers hynny, maen nhw wedi bod yn gweithio ar ddatblygu 'Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd i Gymru' er mwyn gwella darpariaeth. Bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith erbyn 2024.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud i wasanaethau iechyd menywod a bod safonau uchel o ofal menopos ar gael i bawb.
"Rydym wedi gofyn i'r gwasanaeth iechyd ddylunio a chyflwyno Cynllun 10 Mlynedd Iechyd Menywod cynhwysfawr, fydd yn cynnwys camau gweithredu i wella gofal, triniaeth a chymorth y menopos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2022