Her i greu dillad... yn lle eu prynu
- Cyhoeddwyd
Drwy gydol mis Mai, mae Branwen Llewellyn wedi cymryd rhan yn her #MeMadeMay ar y cyfryngau cymdeithasol, sef sialens i wisgo eitem o ddilledyn mae hi wedi ei greu ei hun, bob diwrnod. Yma, mae hi'n egluro pam.
Obsesiwn dillad
Dydw i ddim yn credu mai gor-ddweud ydi nodi fod gen i obsesiwn efo dillad.
Nid eitemau i f'amddiffyn rhag yr elfennau yn unig ydi dillad i mi. Fel rhywun sydd wedi brwydro swildod erioed, mae dillad yn fy helpu i fynegi fy hun, ac i siarad drosof fi os nad yw'r geiriau'n llifo.
Dwi'n eu defnyddio, nid yn unig i adlewyrchu fy nhymer (peidiwch â dod yn agos os fydda i'n gwisgo jîns a siwmper fawr - fydda i ddim wedi cael noson dda o gwsg a fydda i'n siarp fy nhafod!), ond hefyd i newid sut dwi'n teimlo. Mae meddwl am be' fydda i'n ei wisgo cyn gwneud cyflwyniad pwysig yn y gwaith gystal bob tamaid i mi ag ymarfer y cyflwyniad ei hun.
Ond er mor gaeth ydw i i'r tonnau dopamin sy'n fy ngwobrwyo wrth brynu outfit newydd, y gwir amdani ydi mod i'n cyfrannu at ddiwydiant sy'n eithriadol o broblematig. Amodau gwaith anfaddeuol, prisiau anfoesol (uchel ac isel!), sarhau cyrff, hiliaeth ac ablaeth ar y runway... heb sôn am y ffaith fod y diwydiant yn gyfrifol am oddeutu 8-10% o'n allyriadau dros y byd.
Dw'n gwybod nad oes gen i'r grym i wneud gwahaniaeth mawr yn hyn o beth, ond rydw i'n teimlo dyletswydd fawr i leihau fy nghyfraniad at barhad y bwystfil anferth yma.
Er cymaint ei ffaeleddau, mae fast-fashion yn hanfodol i nifer o bobl er mwyn cadw eu hunain a'r rheiny sy'n dibynnu arnyn nhw mewn dillad, ond - a dwi'n gwybod pa mor lwcus ydw i o hyn - dydi hynny ddim yn wir amdana i ar hyn o bryd.
Felly dros y blynyddoedd diwethaf dwi wedi bod yn chwilio am ffyrdd o leihau fy ôl troed carbon personol tra hefyd yn bwydo fy angen i am dopamin fix. Y tri pheth dwi'n ymdrechu i'w wneud erbyn hyn yw:
Siopa brandiau annibynnol a/neu siopau lleol/Cymreig
Siopa ail-law
Creu fy nillad fy hun
Heriau'r cyfryngau cymdeithasol
Rhywbeth sydd wedi gwneud y tri yma'n haws ydi heriau gwahanol dros y cyfryngau cymdeithasol. Dwi wedi trio dilyn #SecondHandSeptember bob blwyddyn ers 2019, lle mae rhywun yn gwneud llw i beidio prynu unrhyw beth newydd am fis (joban anoddach na'r disgwyl!), ac eleni, am y tro cyntaf, dwi wedi herio fy hun i gyflawni #MeMadeMay.
Mae #MeMadeMay wedi bodoli ers 2010, ac mae'n herio unigolion i wisgo rhywbeth y maen nhw wedi ei greu eu hunain bob diwrnod trwy gydol y mis.
Er nad ydw i'n berson â llawer o ddawn artistig, mae'r ysfa i greu a bod yn greadigol wedi bod ynof fi erioed. Fe ddysgais weu gyda Mrs Roberts Drws Nesa pan oeddwn i'n blentyn, ac roeddwn i'n trio gwnïo dillad i'r Barbies â llaw (roedd y siwmperi yn oce, ond ges i disaster yn trio gwneud trowsus). Yna fe ddysgodd mam fi sut i weithio'r peiriant Singer, a ges i rywfaint o hwyl ar wneud tedi iâr a thrwsio hemiau.
Fe ail-gydiais yn y gweu ar ôl graddio o'r brifysgol, ac mae'r gweill wedi bod yn clic-clicio'n gymharol reolaidd byth ers hynny. Er fy mod i wedi cael rhai cyfnodau o wnïo brwd, dim ond yn ystod y cyfnod clo cyntaf ddechreuais i fynd ati go iawn.
'Rhywbeth myfyriol, meddylgar...'
Dwi'n cael cymaint o foddhad o greu dillad. Dwi wedi ymroi'n llwyr i ffasiwn ara-deg. Mae'r broses i gyd yn cymryd amser - darganfod patrwm, chwilio am y defnydd perffaith ar ei gyfer, torri'r papur sidan, torri'r defnydd, llenwi'r bobin, pwytho. Mae 'na rywbeth myfyriol, meddylgar am yr holl beth.
A dyma fi, bron ar ddiwedd #MeMadeMay 2023, a bron â chyflawni'r her gyda chymysgedd o ddillad dwi wedi eu gwnïo a'u gweu.
Mae cymryd rhan wedi bod yn bleser llwyr, er mod i wedi colli cwsg ambell noson yn pendroni oes gen i ddigon o me-mades i bara'r mis! Heddiw, dwi'n gwisgo crys wnes i ei dechrau neithiwr a'i gorffen dros frecwast bore 'ma. Sôn am lwyddo o drwch blewyn!
Dysgu ac addasu
Felly beth ydw i wedi ei ddysgu o'r mis yma? Dwi wedi dysgu cymaint mae fy sgiliau a ngwybodaeth o'r grefft wedi datblygu dros y blynyddoedd, ac wedi sylweddoli cymaint sydd gen i eto i'w ddysgu. Dwi wedi dod i adnabod fy nghorff yn well - ei fesur, addasu patrymau yn ôl yr angen, sylwi beth sydd wir yn fy siwtio i, a pha fath o ddillad sy'n gwneud imi deimlo'n dda.
Dwi wedi sylwi o'r newydd pa mor annigonol ydi'r dillad ar y stryd fawr - y pwythau blêr, y meintiau anghyson. Dwi wedi dysgu sut i addasu ac i drwsio dillad sydd gen i eisoes; dillad sydd wedi mynd yn angof am eu bod nhw wedi gweld dyddiau gwell neu am nad ydyn nhw'n ffitio'n berffaith.
Dwi hefyd wedi gweld pa mor braf y gall y cyfryngau cymdeithasol fod. Mae'r gymuned gwnïo a gweu ar Instagram yn niche, ond yn anferth ac yn glên, a phawb yn barod i rannu top-tips ac i glodfori gweithiau ei gilydd.
Mae'n bwysig cofio nad ydi gwnïo eich dillad eich hunan o reidrwydd yn wych i'r amgylchedd chwaith, ond mae 'na ffyrdd i gadw'r ôl troed carbon i lawr. Dwi'n ymdrechu i brynu defnydd deadstock, sef defnydd fydd brandiau ffasiwn ddim ei eisiau mwyach ac sy'n cael ei achub o gladdfeydd sbwriel. Dwi wedi creu ffrogiau o hen ddillad gwely, ac wedi creu dillad newydd o hen ddillad hefyd!
Dwi'n dal i ysu am y tonnau dopamin (maen nhw'n dweud fod cael pethau newydd yn rhyddhau'r hormon hapus yn yr ymennydd), ac wrth fy modd yn prynu ac yn caffael, felly mae gen i ffordd go bell i deithio arni cyn imi lwyddo bod yn fwy cydwybodol a byw'n fwy cynaliadwy.
Ond dwi'n trio, ac mi fydd y gweill a'r peiriant Singer hefo fi wrth i fi greu, addasu a thrwsio fy ffordd at hynny.
Hefyd o ddiddordeb: