'Rhai plant yn mynd i ysgol Saesneg oherwydd ffordd ar gau'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder bod ysgol Gymraeg yn ardal Wrecsam yn colli disgyblion oherwydd bod ffordd y B5605 ddim wedi ei thrwsio dros ddwy flynedd ers ei difrodi.
Fe gafodd y ffordd ei chau ar ôl tirlithriad ger Afon Dyfrdwy yn dilyn Storm Christophe ym mis Ionawr 2021.
Mae hynny wedi golygu taith hirach o hyd at ddeng milltir rhwng Cefn Mawr a'r Waun.
Yn ôl Pennaeth Ysgol Min y Ddôl yng Nghefn Mawr, maen nhw wedi colli disgyblion oherwydd yr anghyfleustra.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn dweud eu bod yn y broses caffael ar hyn o bryd.
Fe gafodd Cyngor Wrecsam £2.8m gan Lywodraeth Cymru fis Mai diwethaf i drwsio rhan o'r ffordd rhwng pentrefi Newbridge a Pentre, ond dydy'r gwaith ddim wedi dechrau.
Mae Pennaeth Ysgol Min y Ddôl, Claire Rayner, yn dweud bod y sefyllfa wedi effeithio ar nifer y disgyblion sydd yno.
"Mae o wedi effeithio yn fawr arnom ni. Mae 'na deulu wedi newid ysgol oherwydd y newid yn y daith i'r ysgol.
"Mae o wedi cynyddu'r pellter iddyn nhw ac maen nhw wedi dewis mynd i ysgol sydd yn agosach at adre' ac yn anffodus ysgol Saesneg ydy hi yn yr achos yna.
"Dros y ddwy, tair, blynedd [ers cau'r ffordd] dwi lawr rhyw 15 o blant. Alla' i ddim dweud yn gadarnhaol mai oherwydd y ffordd mae hynny, ond dwi'n sicr dydy o ddim wedi helpu."
"Mae genno' ni achosion o deuluoedd yn hwyr i'r ysgol oherwydd y ffordd wedi cau. Maen nhw'n gorfod mynd yn bellach o gwmpas ac os oes 'na draffig ar y ffordd maen nhw'n ei chael hi'n anodd dod yma mewn pryd."
Digwyddodd y tirlithriad yn agos at y fan ble mae ffordd yr B5605 yn croesi Afon Dyfrdwy gan olygu bod rhaid i yrwyr deithio'n bellach i ddefnyddio pontydd eraill yr ardal.
Un o'r rhieni sy'n teimlo rhwystredigaeth ydy Bethan Thrussell.
"Mae o'n rili rhwystredig. Mae angen cael ei wneud achos mae'r plant yn teithio ar fysiau ar hyn o bryd.
"Mae'n boeth, mae'n hir, 'den nhw ddim yn hapus efo hynny."
"Mae 'na o leiaf tri plentyn dwi'n gwybod am, sydd wedi mynd i ysgol Saesneg yn lle Cymraeg achos y traffig. Mae o jyst yn haws. Maen nhw'n dechrau symud, sydd yn drist achos mae 'na lai yn mynd i ysgol Gymraeg wedyn."
Problem sy'n effeithio milltiroedd
Mae busnesau lleol yn anhapus â'r sefyllfa ac mae gwasanaeth bws trwy Newbridge a Rhosymedre wedi ei atal gyda theithwyr yn gorfod cerdded ymhellach at wasanaethau eraill.
Mae 'na bryder hefyd am hen bont ger Trefor sy'n cael ei defnyddio gan lawer i osgoi'r problemau traffig ond sy'n anaddas i gerbydau trwm.
Mae effaith cau'r ffordd yn cael ei deimlo'r ochr arall i ddyffryn Dyfrdwy hefyd, yn ôl Eleanor Burnham, sy'n byw yn Y Waun.
"Mae o yn effeithio arnom ni oherwydd mae 'n ambell i argyfwng ar y ffordd osgoi, A483, felly maen nhw'n gorfod cau o'n aml," meddai
"Ac yn yr haf os oes 'na lot o draffig efo twristiaeth, mae 'na ambell i waith lle 'dech chi'n gorfod mynd yr holl ffordd i Langollen a dod o gwmpas ar y ffordd i Wrecsam trwy Trefor ac yn y blaen ac mae'n hollol anghyfleus.
"'Dwi'n 'nabod pobl sy'n cael eu heffeithio'n fawr iawn, un rhan o'r teulu un ochr, a rhan arall y teulu'r ochr arall. Mae'n andros o anodd.
"A be' sy'n anodd i ni ydy, pam bod neb yn gwneud dim byd ar ôl yr holl flynyddoedd?"
Y ffordd ymlaen?
Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Wrecsam: "Mae'r gwaith o drwsio'r ffordd yn Newbridge yn y broses caffael ar hyn o bryd ble rydym yn gwahodd cwmnïau i gynnig am y gwaith.
"Unwaith y bydd y rhan honno wedi ei chwblhau byddwn yn penodi'r contractwr mwyaf addas i gwblhau'r gwaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023
- Cyhoeddwyd29 Mai 2023
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023