Arestio dyn am 'dargedu' hofrennydd heddlu gyda laser

  • Cyhoeddwyd
LaserFfynhonnell y llun, The National Police Air Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 41 oed ar amheuaeth o dargedu hofrennydd gyda laser

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei arestio ar ôl i hofrennydd yr heddlu gael ei "dargedu'n gyson" gan ben laser yng nghanol gwaith archwilio.

Mae'r dyn 41 oed o ardal Ravenhill y ddinas wedi ei arestio ar amheuaeth o weithredu yn esgeulus ac mewn modd fyddai'n peryglu awyren.

Dywedodd Heddlu'r De fod Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) wedi cysylltu â nhw ychydig cyn 01:00 fore Gwener.

Fe wnaeth yr NPAS rannu neges yn ddiweddarach ar Twitter yn dweud bod y digwyddiad yn "siomedig".

Mae hi'n anghyfreithlon i anelu laser at awyren, cerbyd neu long.

Mae'r dyn yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig