Dyn yn gwadu twyll £12,000 yn erbyn siop Gymraeg yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Siop y Pentan, Caerfyrddin

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar 11 achos o dwyll gwerth £12,000 oddi wrth Siop y Pentan ym marchnad Caerfyrddin.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Emyr Edwards yn cydnabod ei fod wedi gwneud y taliadau, ond mae'n honni fod hyn fel cyflog oedd yn ddyledus iddo.

Fe gafodd yr achos gwreiddiol yn erbyn Mr Edwards ei ohirio yn 2020 oherwydd rhesymau cyfreithiol.

Mae'r erlyniad yn honni iddo gyflawni 11 achos o dwyll ariannol gan dalu arian o Siop y Pentan iddo'i hun, ei frawd a busnes arall rhwng 2017 a 2018.

Clywodd y llys fod Mr Edwards wedi gweithio dechrau gweithio i'r siop sy'n gwerthu nwyddau Cymraeg a Chymreig yn 2010.

Fe dderbyniodd hyfforddiant cadw cyfrifon, a chymryd mwy o gyfrifoldeb o fewn y siop wedi i ŵr y cyn-berchennog, Llio Davies, fynd yn sâl.

Fe adawodd ei swydd yn y siop ym mis Medi 2018.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Llio Davies dystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf yr achos yn Llys y Goron Abertrawe

Ar ddiwrnod cyntaf yr achos fe glywodd dystiolaeth y perchennog, Llio Davies.

Dywedodd iddi roi cyfrifoldeb cadw cyfrifon y busnes i Emyr Edwards wedi salwch ei gŵr, Andrew Davies.

Bu farw Mr Davies yn 2016, ac erbyn hynny roedd gan Mr Edwards "gyfrifoldeb llwyr" o faterion ariannol Siop y Pentan, yn ôl Llio Davies.

Dywedodd wrth y llys mai Mr Edwards oedd "y dewis naturiol" i gymryd rôl rheolwr y cyfrifon gan ei fod wedi gweithio yno ers yn 18 oed, a bod ganddo gefndir o reoli materion ariannol wedi iddo gwblhau cwrs yng Ngholeg Gŵyr.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Mr Edwards yn talu sieciau a thaliadau ar-lein iddo'i hun rhwng 2017-2018 ac yn eu galw yn bethau amrywiol, gan gynnwys "rent" a "hysbys".

'Ymddiried ynddo'

Roedd yna 11 taliad dros gyfnod o amser, gwerth tua £12,000.

Fe ddywedodd Llio Davies nad oedd hi wedi rhoi caniatâd am y taliadau yma, ac roedd hi'n "ymddiried ynddo" i wneud y taliadau cywir.

Yn ôl Mr Edwards, roedd y taliadau ychwanegol yn rhai ar gyfer cyflog oedd yn ddyledus iddo. Ond fe ddywedodd Llio Davies nad oedd Mr Davies erioed wedi crybwyll hyn iddi.

"Byddai dim esgus iddo fo beidio cael ei dalu, gan mai fo oedd yn gyfrifol am y cyfrifon," meddai.

Clywodd y llys fod Mr Edwards hefyd yn gweithio i gwmnïau eraill, ac yn delio gyda materion ariannol.

'Gwneud camsyniad'

Trwy gyfrifon y busnes, wnaeth Llio Davies dalu i Emyr Edwards gwblhau cwrs busnes yng Ngholeg Gŵyr.

Ond yn 2019 fe ddwedodd Ms Davies wrth yr heddlu fod y ddau daliad yma yn "ddim byd i wneud â Siop y Pentan". Fodd bynnag ym Mai 2020 fe newidiodd ei thystiolaeth "ar ôl gwneud camsyniad".

Yn ôl Llio Davies "roedd lot yn mynd ymlaen ar y pryd ac o'n i wedi drysu".

Fe ollyngwyd dau gyhuddiad o dwyll yn erbyn Mr Edwards yn 2020 ond mae yna 11 cyhuddiad yn parhau yn ei erbyn.

Yn ôl bargyfreithiwr yr amddiffyniad, James Hartson, roedd cyflwr ariannol y siop mewn "tipyn o shambles" yn ystod ac ar ôl y cyfnod roedd y diffynnydd yn rheolwr ariannol y busnes.

Fe sylwodd Llio Davies fod elw'r siop wedi lleihau yn sylweddol yn 2017-2018.

Dywedodd fod y diffynnydd wedi dweud mai'r rheswm am hyn oedd ei bod hi'n gwario gormod ar gynnyrch.

'Llyfryn coch'

Yn ôl Brieg Dafydd, mab Mr a Mrs Davies, doedd ei fam ddim mewn cyflwr "i gadw llygad barcud ar gyfrifon y siop" wedi marwolaeth ei dad yn 2016.

Trosglwyddwyd y busnes i Brieg Dafydd yn 2018.

Ar ôl iddo ddechrau gweithio yn y siop yn llawn amser fe sylwodd fod yna "symiau afresymol o arian" yn mynd o gyfri'r siop.

Mae Mr Dafydd o'r farn bod Emyr Edwards wedi bradychu'r teulu wrth iddyn nhw alaru.

Yn ôl Mr Edwards mae yna lyfryn coch sy'n cofnodi'r taliadau ychwanegol a ddigwyddodd rhwng 2017 a 2018.

Mae Llio Davies a Brieg Dafydd yn gwadu gweld y llyfryn.

Mae Mr Edwards yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig