Pryder am gynlluniau adnewyddu marchnad Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Marchnad Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai stondinwyr yn ofni y gallai'r newidiadau fod yn ergyd ariannol i'w busnesau nhw

Mae rhai stondinwyr ym marchnad Caerdydd yn poeni am effaith posib cynlluniau'r cyngor i adnewyddu'r adeilad hanesyddol.

Fel rhan o'r datblygiad fe fyddai yna ardal fwyta gyda lle i 70 o bobl eistedd, ac mae nifer wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn ofni y gallai hynny fod yn ergyd ariannol i'w busnesau nhw.

Maen nhw hefyd yn ofni y gallai amharu ar "hanes a chymeriad" y farchnad.

Yn ôl Cyngor Caerdydd y nod yw "denu mwy o ymwelwyr newydd", gan hefyd sicrhau eu bod yn "gofalu am elfennau gwreiddiol" sy'n perthyn i'r lle.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'r datblygiad fe fyddai yna ardal fwyta gyda lle i 70 o bobl eistedd,

Agorwyd y farchnad yn 1891, a bellach mae'r adeilad cofrestredig Gradd II yn gartref i 61 o fusnesau, gyda 2.2 miliwn o bobl yn pasio drwyddi bob blwyddyn.

Dywedodd y cyngor y bydd 'na waith adnewyddu i'r to, sy'n gollwng dŵr, ac mae'n fwriad gosod paneli solar arno. Y nod hefyd yw datgelu'r lloriau gwreiddiol sydd ar lawr y farchnad.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig cadw cymeriad y farchnad," medd Ieuan Harry o Ffwrnes Pizza

Croesawu'r penderfyniad tra hefyd yn rhybuddio nad oes angen gweddnewidiad llwyr mae Ieuan Harry o Ffwrnes Pizza.

"Yn y bôn mae'r cynlluniau yn edrych yn ffab," meddai.

"Ond os dyw e heb dorri, does dim isio trwsio fe. Ma' 'na reswm bod y farchnad yn llwyddiannus, a hwnna yw ma'n gweithio fel ma' fe.

"Beth y'n ni 'di gweld o'r cynlluniau bod nhw'n treial cadw cymeriad a golwg sylfaenol y farchnad, sy'n beth pwysig.

"Peth pwysig am y farchnad 'ma yw'r gymysgedd o bobl sy' 'ma - ma' 'da ni gymysgedd o stondinau traddodiadol, yr hen stondinau a wedyn y stondinau bwyd newydd yn cynnwys ni.

"Ma'n bwysig bo' ni'n cadw'r cymeriad 'na yn y farchnad achos mae'n gynhyrchiad perffaith o holl bobl Caerdydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r farchnad yn gartref i 61 o fusnesau bellach

Ond mae Jules Yates, perchennog stondin On Time, yn credu bod y cynlluniau yn ffafrio stondinau bwyd yn hytrach na'r rhai traddodiadol.

"Maen nhw'n trial rhoi lle i'r bwyd llawer yn fwy na beth ydyn nhw i stondinau sydd wedi bod yma yn hir ac sy'n hynod brysur ac sy'n denu pobl i'r farchnad - sydd yn llawer mwy prysur ac sy'n creu gwasanaeth i bobl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Budd i fusnesau bwyd y farchnad yn unig fyddai'r cynlluniau, medd Jules Yates

Mae'r cwmni cigydd Alan Griffiths wedi bod yn y farchnad ers 54 mlynedd.

"Mae'r lluniau yn edrych yn dda iawn ," meddai.

"Yr hyn nad ydym wir eisiau i ddigwydd yw ei bod yn gyfangwbl yn gwrt bwyd ac felly nid yn farchnad lle mae llawer o wahanol fathau o grefftau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lowri Haf Cooke yn rhybuddio rhag dilyn yr un trywydd â marchnad Casnewydd

Fe gafodd marchnad Casnewydd ei hadnewyddu ym mis Mawrth 2022, gyda phwyslais ar stondinau bwyd.

Mae'r awdur a cholofnydd bwyd, Lowri Haf Cooke, yn rhybuddio yn erbyn dilyn yr un patrwm.

"Dwi'n llawn chwilfrydedd, a dwi'n llawn amheuon hefyd," meddai.

"Hynny ydy, bo' nhw ddim yn creu gormod o le i'r hipsters a'u harian mawr a bo' nhw'n prisio pobl gyffredin allan o'r farchnad.

"Da' ni ddim isio be' sy' 'di digwydd ym marchnad Casnewydd, ble mae pobl leol ddim yn teimlo nid dyna'r lle iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o sut allai'r farchnad edrych ar ei newydd wedd

Dywedodd aelod cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu, Russell Goodway, y bydd y cynlluniau'n "sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy i'r adeilad, cadw a gwella ei dreftadaeth, a sicrhau ei fod yn parhau yn ganolfan brysur yng nghanol y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod".

Ar hyn o bryd, gobaith y cyngor yw y bydd y gwaith yn dechrau yn haf 2024 ac yn cymryd tua dwy flynedd i'w gwblhau.