Difrod i Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Cwm RhymniFfynhonnell y llun, @CaerphillyCBC
Disgrifiad o’r llun,

Yn gynharach fe wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili roi llun o'r tân ar eu cyfrif trydar

Mae rhan o Ysgol Gynradd Gymraeg Caerffili wedi'i difrodi wedi tân yn yr adeilad fore Sadwrn.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod y tân wedi cychwyn y tu allan i'r ysgol ac wedi lledaenu i ystafell ddosbarth.

Yn wreiddiol dywedodd llefarydd bod y tân wedi'i leoli yn safle Gwyndy, Ysgol Gyfun Cwm Rhymni sydd y drws nesaf i'r Ysgol Gynradd Gymraeg.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 0919 ac ar y pryd roedd yna adroddiadau bod y tân yn un difrifol.

Mae un o ddosbarthiadau y plant iau a tho'r ysgol wedi cael difrod.

Cafodd y tân ei ddiffodd oddeutu 1140.

Pynciau cysylltiedig