Penodi rheolwr newydd i Glwb Pêl-droed Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Erol BulutFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau mai Erol Bulut - cyn-chwaraewr rhyngwladol Twrci dan-21 yw eu rheolwr newydd.

Mae Bulut, 48, yn olynu Sabri Lamouchi o Ffrainc - ni chafodd ei gytundeb tymor byr ei adnewyddu ddiwedd y tymor diwethaf er iddo sicrhau bod yr Adar Gleision yn parhau yn y Bencampwriaeth.

"Mae brwdfrydedd Erol a'i awch am lwyddiant wedi gwneud argraff fawr arnaf," medd perchennog Caerdydd, Vincent Tan.

"Mae ei record anhygoel fel rheolwr ym myd pêl-droed Ewropeaidd yn rhywbeth nad ydym wedi'i gael yng Nghaerdydd o'r blaen.

"Ry'n yn gobeithio y bydd ei brofiad yn denu chwaraewyr o broffil a safon uwch yn ystod y blynyddoedd nesaf."

Dechreuodd ei yrfa hyfforddi yn Yeni Malatyaspor yn 2017 cyn cymryd yr awenau yn Alanyaspor yn 2019.

Dyw Caerdydd ddim wedi datgelu hyd cytundeb Bulut hyd yma.