'O'dd e'n uffernol': Rhannu profiad o anhwylder deubegwn

  • Cyhoeddwyd
Stephen Hopkin
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i'n byw gyda hyn bob dydd. Ac o'dd e'n uffernol i ddweud y gwir," medd Stephen Hopkins

"Ges i'r diagnosis anghywir. Colli popeth, colli tŷ, colli popeth. O'n i'n homeless ar un adeg. Yn yr uchelder rw' i wedi trio lladd fy hunan."

Mae Stephen Hopkins o ogledd Abertawe yn rhannu ei brofiad o anhwylder deubegwn (bipolar) yn gyhoeddus am y tro cynta'.

Yn 56 oed, dim ond ei deulu fu'n ymwybodol o'i gyflwr a'r holl ddioddef tan nawr.

Daw wrth i ymchwil ddangos bod degau o filoedd o gleifion sydd ag anhwylder deubegwn yng Nghymru yn aros bron i 12 mlynedd i gael diagnosis cywir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

'Mynd yn waeth bob dydd'

"Odd busnes 'da fi. O'n i'n neud yn 'itha da, o'n i ddim yn byw fel Rockerfeller," dywedodd.

"Yn gynta' ges i'r mania ac wedyn da'th yr iselder, a hwnna oedd y gwaetha'. Do'n i ddim eisiau mynd i'r gwaith. O'dd dim diddordeb ac wedyn golles i'r busnes.

"Es i i'r doctor a medde fe 'iselder sydd da ti'. Prozac ges i, oedd yn 'neud mania yn waeth, ac yr iselder yn waeth.

"O'n i'n mynd yn waeth bob dydd. A'th yr iselder yn waeth a es i i'r doctor eto, gweud bod hwn ddim yn gweithio i fi. 'Wel na'i gyd sy' da ni' dywedodd.

"O'n i'n byw gyda hyn bob dydd. Ac o'dd e'n uffernol i ddweud y gwir."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Hopkins yn gobeithio y bydd siarad am ei gyflwr yn helpu eraill

Fe aeth hyn yn ei flaen am ddwy flynedd, a sefyllfa Stephen yn mynd o ddrwg i waeth. Drwy hap a damwain y daeth i wybod am anhwylder deubegwn.

"Ar ôl priodi weles i raglen ar y BBC ar bobl leol gyda bipolar a medde'r wraig 'ti yw hwnna, yn gwmws fel y bobl hyn'.

"Dim ond ar y foment 'ny o'n i'n gwybod yn fy hunan be' oedd 'da fi.

"Wedyn es i'r doctor a dim gofyn, ond mynnu, bo fe'n 'neud rhywbeth ac wedyn dechreuodd y bêl i rowlio.

"Ar ôl dweud wrth y doctor nad iselder sy' da fi, halodd e lythyr ac roedd hi'n dair blynedd i gael consultant.

"Wedyn i ga'l diagnosis iawn, dwy flynedd ar ôl 'ny. Felly pum mlynedd ar ôl i'r doctor hala'r llythyr."

12 mlynedd am ddiagnosis cywir

Mae anhwylder deubegwn yn salwch meddwl difrifol sy'n achosi newidiadau sylweddol, ac weithiau eithafol, o ran hwyliau ac egni.

Mae'r newidiadau hyn yn mynd ymhell y tu hwnt i brofiadau'r rhan fwyaf o bobl o ran teimlo ychydig yn drist neu'n hapus.

Yn ôl ystadegau Bioplar UK mae dros filiwn o bobl yn y DU yn dioddef o anhwylder deubegwn.

Mae'r nifer yma 30% yn uwch na'r rhai sydd â dementia, a dwywaith cymaint y nifer sydd â sgitsoffrenia.

Mae profiad Stephen o amseroedd aros hir yn adlewyrchu problem eang drwy'r DU medd elusen Bipolar UK, a phroblem sy'n waeth fyth yma yng Nghymru.

Mae ymchwil newydd yn dangos bod degau o filoedd o gleifion sydd ag anhwylder deubegwn yng Nghymru yn aros bron i 12 mlynedd i gael diagnosis cywir.

Mae hyn bron i ddwy flynedd a hanner yn hirach nag yn Lloegr - sefyllfa sydd yn "annerbyniol" ôl elusen Bipolar UK.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bipolar UK fod problem eang drwy'r DU, sy'n waeth fyth yng Nghymru

Mae adroddiad gan Gomisiwn Anhwylder Deubegwn yng Nghymru wedi tynnu sylw at yr angen i leihau'r amser diagnosis a sicrhau mwy o ddilyniant o ran gofal.

Mae'r adroddiad yn nodi y byddai'r gwelliannau hyn yn arwain at ansawdd bywyd gwell i'r rhai sy'n byw gydag anhwylder deubegwn, gostyngiad mewn hunanladdiadau sy'n gysylltiedig â'r cyflwr, a llai o faich ariannol ar drethdalwyr.

Yn ôl Simon Kitchen, prif swyddog gweithredol Bipolar UK: "Mae hyn oherwydd cyfuniad o ffactorau gan gynnwys stigma cymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r cyflwr, tueddiad i bobl sy'n profi hypomania neu fania i beidio â mynd i weld eu meddyg teulu, a diffyg hyfforddiant arbenigol ynghylch anhwylder deubegwn ar draws y sector iechyd.

"Ein cenhadaeth yw egluro beth yw anhwylder deubegwn fel bod pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn gallu cael diagnosis yn gynt er mwyn cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

"Yna gallan nhw gael cyfnodau hir o sefydlogrwydd ac ansawdd bywyd llawer gwell."

Ffynhonnell y llun, Bipolar UK
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Kitchen o Bipolar UK fod stigma cymdeithasol yn gysylltiedig ag anhwylder deubegwn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i ymateb i anghenion lleol.

"Rydym hefyd wedi buddsoddi £6m eleni i weithredu'r cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Cymru, sy'n nodi'r camau gweithredu tuag at sicrhau gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy."

'Gallu gwneud rhywbeth amdano'

Mae Stephen Hopkins yn argyhoeddedig bod cael y diagnosis cywir wedi achub ei fywyd.

"O'dd e'n bwysig iawn cal y diagnosis cywir oherwydd roeddwn i'n gallu gwneud rhywbeth amdano fe," meddai.

"O'n i'n gwybod be' sy' 'da fi ac edrych ar lyfrau a chylchgronau a phethau fel 'na, a gweld o'n i methu gwneud dim amdano fe ond yn gallu byw gyda fe yn well, a dyna yw'r peth pwysig.

"Gyda'r stigma sy' da pobl, hwn yw'r tro cyntaf fi di siarad amdano fe a dwi 'di cal y diagnosis am 10 mlynedd neu fwy.

"Oherwydd yr elusen Bipolar UK fi'n gallu siarad am e. Nawr fi'n gallu gweld gwendidau a gwneud rhywbeth amdano fe."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stephen Hopkins yn argyhoeddedig bod cael y diagnosis cywir wedi achub ei fywyd

Mae Stephen wedi llwyddo i ailadeiladu ei fywyd, gan raddio a chwblhau cwrs meistr mewn celfyddyd gain.

Helpu pobl eraill yng Nghymru yw'r rheswm dros siarad am y cyflwr yn gyhoeddus, meddai.

"Pobl yw pobl yn bobman, ond ma' rhaid i'r NHS wneud yn well yma, a phan fydd hwnna yn iawn bydd pobl ddim yn lladd eu hunain.

"Gyda Bipolar UK gallwch chi ffonio nhw a siarad 'da rhywun sy'n byw bob dydd gyda'r dioddef.

"A falle os ydyn ni'n gallu helpu un person, mae wedi bod yn werth i fi siarad."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig