Anorecsia: Dynes fu farw 'heb gael cymorth digonol'

  • Cyhoeddwyd
Amy EllisFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Amy Ellis tra'n ceisio codi arian ar gyfer triniaeth arbenigol oedd ddim ar gael ar y GIG

Mae ffrind i ddynes o Sir y Fflint a fu farw ar ôl brwydr hir ag anorecsia yn dweud bod ei hiechyd "wedi dirywio'n gyflym" oherwydd ei bod "heb gael cymorth digonol".

Roedd Amy Ellis, 43, wedi bod yn ceisio codi £200,000 i gael triniaeth arbenigol ar ôl clywed na fyddai ei thriniaeth yn cael ei hariannu gan y Gwasanaeth Iechyd.

Roedd ei mam yn gofalu amdani yn eu cartref ym Mrychdyn, ac roedd Amy yn cael problemau symudedd oherwydd ei chyflwr.

Wrth siarad â BBC Cymru yr haf diwethaf, dywedodd Amy Ellis ei bod yn meddwl y byddai'n marw os na fyddai'n cael y driniaeth, oedd ar gael yn breifat yn Lloegr yn unig.

Does dim un uned sy'n arbenigo mewn anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Roedd cost y driniaeth arbenigol yn Lloegr yn £7,500 yr wythnos.

'Caredig a galluog'

Mewn teyrnged dywedodd ei ffrind Simon Quick bod Ms Ellis yn berson "caredig a galluog" a'i bod wedi ymladd "yn erbyn pawb a phopeth i helpu ei hun ac eraill sy'n dioddef o anhwylderau bwyta".

Ychwanegodd y byddai'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth a ddechreuwyd gan Ms Ellis - oedd â dros 140,000 o ddilynwyr ar TikTok - yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Amy, Lyn, bod "y byd yn le tlotach hebddi"

Mewn teyrnged arall dywedodd ei mam, Lyn Ellis, bod ei merch yn "brydferth a sensitif, oedd â llawer mwy i'w roi i bawb".

Ychwanegodd fod "y byd yn le tlotach hebddi".

'Mwyafrif yn cael gofal yng Nghymru'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn sylweddoli'r effaith y gall anhwylderau bwyta ei gael ar fywydau pobl, a'u bod yn cynyddu'r buddsoddiad mewn gwasanaethau yn y maes gan gynnwys £2.5m yn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon.

"Bydd y mwyafrif o bobl sydd angen mynediad at wasanaethau - gan gynnwys cleifion mewnol - yn derbyn y gofal hwn yng Nghymru ac rydym hefyd yn gweithio gyda GIG Cymru i ystyried dichonoldeb uned anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru.

"Ry'n ni'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ddarparu cefnogaeth arbenigol i bobl ag anhwylderau bwyta."

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cael cais am sylw.