'Gwir angen uned breswyl ar gyfer anhwylderau bwyta'
- Cyhoeddwyd
Dywedodd y gwleidydd Sarah Murphy ei bod hi "ddiwrnodau i ffwrdd" o gael ei hanfon i ward seiciatrig oedolion yn 14 oed oherwydd anorecsia.
Dywedodd Aelod o'r Senedd Pen-y-bont ar Ogwr na fyddai hi "byth wedi dod allan" petai hi wedi cael ei hanfon yno.
"Fe fydden nhw wedi fy nghloi i fyny mewn ward seiciatrig oedolion yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod pob bwrdd iechyd wedi derbyn arian i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta.
'Mor sâl'
Gwnaeth Ms Murphy araith ddagreuol mewn dadl yn y Senedd a arweiniwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig yn galw am well gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc - gan gynnwys archwilio'r posibilrwydd o sefydlu uned anhwylderau bwyta.
Roedd hi'n cofio mai'r unig opsiwn iddi hi, ac eithrio'r ward oedolion yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg, oedd uned breswyl ym Mryste, ond roedd yn llawn.
"Roedd fy rhieni mor ofnus. A dweud y gwir, roeddwn i mor sâl, dydw i ddim hyd yn oed yn meddwl bod ofn arna i bellach. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd," meddai.
"Roedd hynny 20 mlynedd yn ôl a does gennym ni dal ddim uned yng Nghymru."
Dywedodd Ms Murphy ei bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth Lynne Neagle, y dirprwy weinidog dros iechyd meddwl a lles, ond ychwanegodd fod gwir angen sefydlu uned breswyl ar gyfer anhwylderau bwyta yng Nghymru "fel nad oes rhaid i bobl symud i ffwrdd o'u cartrefi".
"Yn 14 oed dwi ddim yn gwybod sut y byddwn i wedi mynd i Fryste fel 'na."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ers 2017, mae byrddau iechyd wedi derbyn £4.1m ychwanegol i gefnogi gwelliannau fel ymyrraeth gynnar a gwell amseroedd aros."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2019