Anhwylderau bwyta: Posib i gleifion gael eu gyrru i'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Georgia Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Mae Georgia Taylor yn un o'r rheiny sydd wedi cael cymorth gan yr uned arbenigol yn Rhydychen

Mae pobl sydd ag anhwylderau bwyta yng Nghymru yn cael eu "heffeithio'n negyddol" gan ffordd newydd o leoli triniaeth ar eu cyfer, yn ôl seiciatrydd.

Dywedodd Dr Isabela Jurewicz nad yw cleifion yn gwybod i ble y byddan nhw'n cael eu hanfon oherwydd y system newydd.

Tan fis Awst y llynedd, roedd cleifion anhwylderau bwyta o Gymru oedd angen triniaeth fel claf mewnol yn cael eu hanfon i Cotswold House - uned arbenigol y GIG yn Rhydychen.

Ond nawr fe allen nhw gael eu gyrru i unedau mor bell â'r Alban.

Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru fod y ddarpariaeth "yn cyd-fynd" â rhannau eraill o'r DU.

'Eisoes yn sefyllfa anodd'

Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru uned anhwylderau bwyta i gleifion mewnol. Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â GIG Cymru, yn ymchwilio i'r posibilrwydd o sefydlu safle o'r fath.

Hyd at Awst 2022 roedd cytundeb 10 mlynedd gydag Ymddiriedolaeth GIG Rhydychen, a oedd yn golygu bod gwelyau wedi'u sicrhau i gleifion o dde Cymru.

Nawr mae cleifion yn cael eu hasesu ar yr "angen clinigol mwyaf" gan banel GIG Lloegr, sydd wedyn yn penderfynu ble yn y DU y byddant yn cael eu trin.

Disgrifiad o’r llun,

"Fe allen ni gael cynnig gwely yn Glasgow neu ym Marlow," meddai Dr Isabela Jurewicz

Mae Dr Jurewicz yn seiciatrydd ymgynghorol sy'n gweithio yng Nghaerdydd a'r Fro, ac yn gadeirydd yr adran anhwylderau bwyta ddatganoledig yng Ngholeg Brenhinol y Seiciatryddion.

Dywedodd fod diwedd y cytundeb gydag Ymddiriedolaeth Rhydychen wedi cael "effaith negyddol" ar ei chleifion.

"Er enghraifft, fe allen ni gael cynnig gwely yn Glasgow neu ym Marlow," meddai

"Rhaid i ni esbonio i gleifion nad ydyn ni wir yn gwybod i ble maen nhw'n mynd i fynd, ac yn amlwg mae hynny'n ychwanegu at yr hyn sydd eisoes yn sefyllfa anodd a llawn straen."

Dywedodd Dr Jurewicz fod ganddyn nhw "berthynas waith dda iawn" gyda'r uned yn Rhydychen, a'i bod yn "gweld pa mor dda oedd y canlyniadau".

Ychwanegodd fod "angen mawr" am roi mwy o addysg am anhwylderau bwyta yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Georgia Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Georgia Taylor ei thrin yn Cotswold House ar ddechrau 2022

Cafodd Georgia Taylor, 19 oed o Ben-y-bont, ei hanfon i Cotswold House ar ddechrau 2022 i gael triniaeth am anorecsia.

Hyd yn oed ar yr adeg hynny, doedd hi ddim yn sicr i ble y byddai Georgia yn cael ei hanfon.

Er iddi gael ei gyrru i Cotswold House yn y pendraw, roedd aros am wely yn gyfnod pryderus iddi.

"Roedd hi mor ansicr i ble fyddwn i'n mynd. Fe wnaeth i mi deimlo fel mod i'n rhyw fath o wrthrych," meddai.

"Fe allwn i fod wedi marw pe bai wedi mynd ymlaen yn hirach."

Ffynhonnell y llun, Georgia Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Georgia ei bod yn "dal i fyw gyda fy anhwylder bwyta hyd heddiw"

Mae Georgia yn galw am sefydlu uned i gleifion mewnol yng Nghymru, ac am ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar.

"Pan oeddwn i'n ifanc, yn yr ysgol doeddwn i heb gael fy nysgu am anhwylderau bwyta mewn gwirionedd, felly roeddwn i'n teimlo ei fod yn rhywbeth roedd angen i mi ei guddio, neu'n rhywbeth roedd angen i mi fod â chywilydd ohono.

"Pe bawn i wedi cael y gefnogaeth yna tra ro'n i'n iau, efallai na fyddai wedi datblygu a byddwn i heb fynd mor sâl.

"Rwy'n dal i fyw gyda fy anhwylder bwyta hyd heddiw. Rwy'n brwydro'n galed iawn, iawn.

"Rydw i eisiau mynd i'r brifysgol. Rydw i eisiau gwirfoddoli dramor, eisiau parhau i gael swydd a mwynhau fy mywyd.

"Ond mae hyn yn dal i fod yno yn y cefndir ac rwy'n dal yn ddibynnol iawn ar y tîm anhwylder bwyta ac iechyd meddwl cymunedol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jo Whitfield fod gyrru cleifion ymhell o adref yn "ddinistriol"

Dywedodd Jo Whitfield o elusen anhwylderau bwyta Beat eu bod hwythau wedi clywed am gleifion yn cael eu hanfon cyn belled â'r Alban am driniaeth.

Ychwanegodd fod "bod mor bell oddi wrth eich teulu a rhwydweithiau cymorth yn ddinistriol i gleifion".

Mae'r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun pendant er mwyn sicrhau bod "pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at driniaeth arbenigol cyn gynted â phosibl".

Buddsoddi mwy o arian

Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru eu bod yn ystyried talu am welyau o'r sector annibynnol ar gyfer cleifion Cymru er mwyn darparu gofal yn nes at adref.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr effaith y gall anhwylderau bwyta eu cael ar fywydau pobl, ac rydym yn cynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta, gan gynnwys £2.5m ychwanegol y flwyddyn ariannol hon.

"Bydd y mwyafrif o bobl sydd angen mynediad at wasanaethau - gan gynnwys cleifion mewnol - yn derbyn y gofal hwn yng Nghymru ac rydym hefyd yn gweithio gyda GIG Cymru i ystyried dichonoldeb uned anhwylderau bwyta arbenigol yng Nghymru."

Mae cymorth am anhwylderau bwyta ar gael ar wefan BBC Action Line.