Siop y Pentan: Arian a gymerwyd 'yn eiddo i mi'

  • Cyhoeddwyd
Emyr Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Edwards yn gadael y llys ddydd Mawrth

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o dwyll gwerth £12,000 gan siop Gymraeg yn Sir Gâr wedi dweud wrth yr achos llys yn ei erbyn ei fod ond wedi trosglwyddo arian "oedd yn eiddo i mi".

Mae Emyr Edwards wedi ei gyhuddo o 11 achos o dwyll ariannol, gan dalu arian o fusnes nwyddau Cymraeg Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin iddo'i hun, ei frawd a busnes arall yn 2017 a 2018.

Mae'r erlyniad yn honni bod Mr Edwards wedi cyflawni twyll gwerth oddeutu £11,758.13 dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae Mr Edwards yn cydnabod gwneud y taliadau, ond yn dweud mai gwneud yn iawn am gyflog oedd heb ei dalu oedd hynny, gyda chaniatâd ei gyflogwyr.

Fe ymunodd Mr Edwards â'r busnes yng nghanol tref Caerfyrddin yn 2010/2011 wedi iddo ofyn i berchnogion y siop, Andrew a Llio Davies, am brofiad ym myd busnes.

Derbyniodd hyfforddiant cadw cyfrifon a chymryd mwy o gyfrifoldeb o fewn y siop, wedi i Andrew Davies fynd yn sâl.

'Ceisio cuddio'r taliadau'

Yn ôl yr erlyniad yn Llys y Goron Abertawe fe wnaeth Mr Edwards geisio cuddio'r taliadau trwy eu labeli fel 'rent', 'hysbys' neu 'Cysill'.

Ond yn rhoi tystiolaeth brynhawn Mawrth dywedodd Mr Edwards wrth y llys mai dyma'r ffordd y gwnaeth y diweddar Andrew Davies - cyn-berchennog Siop y Pentan - ei ddysgu i dalu ei hun.

Yn ôl Mr Edwards, cyngor Andrew Davies oedd bod yna fanteision yn ymwneud â threth wrth guddio enwau trosglwyddiadau.

Nid oedd wedi sôn wrth berchnogion Siop y Pentan - Llio Davies a Brieg Dafydd - am y taliadau ychwanegol, ond roedd yn grediniol fod yr arian yn ddyledus iddo.

Yn ôl Mr Edwards: "Roedd Llio o dan straen ar y pryd… Dyna beth oedd Andrew yn gweud wrtho fi neud."

Yn gynharach ddydd Mawrth dywedodd dadansoddwr ariannol annibynnol wrth y llys bod "diffyg trefn" ar lyfrau'r busnes.

Yn ôl adroddiad Natasha Embleton, roedd Mr Edwards wedi derbyn £11,758.13 yn ychwanegol i'w gyflog o Siop y Pentan rhwng 2016-2018.

Mr Edwards ei hun oedd yn gyfrifol am dalu staff o gyfrif y busnes.

Fe aeth yr erlyniad drwy bob taliad i gyfrif Emyr Edwards o gyfrif Siop y Pentan rhwng 2016 a 2018.

Roedd y taliadau oedd yn ychwanegol i'w gyflog yn dangos wedi eu labelu fel 'rhent', 'hysbys' neu 'Cysill'.

Fe wnaeth Ms Embleton gadarnhau nad oedd taliadau wedi cyrraedd cwmni cyfieithu Cysill, ond yn hytrach wedi mynd i gyfrif Mr Edwards ei hun.

'Wedi'i dalu yn fwy na'i gyflog'

Dywedodd Ms Embleton wrth y llys ei bod hi wedi pryderu am ddiffyg trefn llyfrau'r siop, a bod "y llyfrau ddim mor drefnus ag y dylen nhw fod wedi bod".

Roedd yna un achos rhwng 2016 a 2018 lle nad oedd Mr Edwards wedi cael ei dalu'n llawn.

Ond clywodd y llys bod cyfanswm yr holl daliadau wnaeth gyrraedd cyfrif Mr Edwards rhwng 2016 a 2018 yn uwch na'i gyflog.

Mae Emyr Edwards yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig