Siop y Pentan: Dyn yn ddieuog o dwyll ariannol £12,000

  • Cyhoeddwyd
Emyr Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Edwards yn gadael y llys ddydd Mawrth

Mae dyn wedi cael ei ddarganfod yn ddieuog o 11 achos o dwyll ariannol, mewn achos yn ymwneud â siop nwyddau Cymreig.

Roedd Emyr Edwards wedi ei gyhuddo o dwyll ariannol, gan dalu arian o fusnes Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin iddo'i hun, ei frawd a busnes arall rhwng 2017 a 2018.

Honnodd yr erlyniad fod Mr Edwards wedi cyflawni twyll gwerth tua £11,758.13 dros gyfnod o ddwy flynedd.

Fe wnaeth Mr Edwards gydnabod ei fod wedi gwneud y taliadau, ond dywedodd bod hynny er mwyn gwneud yn iawn am gyflog oedd heb ei dalu, gyda chaniatâd ei gyflogwyr.

Fe ddywedodd Mr Edwards ei fod yn dilyn cyfarwyddyd y diweddar Andrew Davies, cyn-berchennog Siop y Pentan, drwy labelu'r taliadau yn bethau amrywiol fel "rhent".

Yn ôl Mr Edwards cafodd gyngor gan Mr Davies, fu farw yn 2016, bod yna fanteision yn ymwneud â threth wrth guddio enwau trosglwyddiadau.

'Cymryd mantais o ffrind'

Yn y datganiadau cloi fe ddywedodd yr erlynydd Miss Georgia Donohuge fod yna bryderon am ddiffyg trefn llyfrau Siop y Pentan, ac mai Emyr Edwards ei hun "oedd yn gyfrifol am holl faterion ariannol y busnes".

Dywedodd Mr Edwards yn gyson wrth iddo roi tystiolaeth i'r llys ddydd Mawrth ei fod yn "gwneud beth oedd Andrew (Davies) yn dweud wrtha i wneud".

Fe ddywedodd Miss Georgia Donohuge wrth y llys nad oedd modd bod yn sicr os oedd Andrew Davies wedi rhoi'r cyfarwyddyd hyn i Mr Edwards, gan iddo farw yn 2016.

Doedd cyd-berchennog y siop a gwraig Andrew Davies, Llio Davies, ddim yn ymwybodol o'r taliadau ychwanegol roedd Emyr Edwards yn eu gwneud rhwng 2017-2018.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr erlyniad, doedd y taliadau ychwanegol ddim yn cyfateb i'r oriau ychwanegol wnaeth Mr Edwards eu gweithio

Gofynnodd Miss Donohuge i'r rheithgor: "A'i dyma beth fyddai rhywun sydd wedi astudio cyfrifeg yn ei wneud?"

Roedd Emyr Edwards wedi cwblhau cwrs cyfrifeg yng Ngholeg Gŵyr. Cyfrif busnes Siop y Pentan wnaeth dalu am y cwrs er mwyn datblygu gwybodaeth Mr Edwards am fyd busnes.

Yn ôl yr erlyniad, doedd y taliadau ychwanegol gan Mr Edwards ddim yn cyfateb i'r oriau ychwanegol a weithiodd rhwng 2017-2018.

"Dyw ei adroddiad e jyst ddim yn gwneud synnwyr," meddai Miss Donohuge.

Ychwanegodd Miss Donohuge fod Emyr Edwards wedi cymryd mantais o'i ffrind, Llio Davies, wrth iddi alaru am ei gŵr.

'Gonestrwydd yn allweddol'

Fe ddywedodd yr amddiffynydd Mr James Hartson wrth y llys fod "gonestrwydd yn allwedol i'r achos hwn".

Cyfaddefodd Mr Edwards ei fod wedi gwneud yr 11 o daliadau, ond gwadodd eu bod yn rhai twyllodrus.

Yn ôl yr amddifyniad roedd hi'n "siom" fod llyfryn coch a oedd, yn ôl Emyr Edwards, wedi cofnodi'r holl oriau a thaliadau ychwanegol, heb gael ei chwilio amdano yn Siop y Pentan nes 25 mis ar ôl arestio Mr Edwards yn 2018.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei glywed yn Llys y Goron Abertawe

Ni lwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i'r llyfryn.

Fe ddywedodd Mr Hartson nad oedd Emyr Edwards wedi dweud celwydd am fodolaeth y llyfryn, a'i fod wedi dweud wrth yr heddlu am y cofnodion pan gafodd ei arestio.

Mae cyn-berchennog y siop Llio Davies a pherchennog presennol y siop, Brieg Dafydd, yn gwadu bod y llyfryn yn bodoli.

Cafodd Mr Edwards ei ganfod yn ddieuog gan y rheithgor ddydd Mercher.