Gŵyl Cefni: Annog mwy i wirfoddoli wrth i'r ŵyl ehangu

  • Cyhoeddwyd
Cynulleidfa gwyl cefniFfynhonnell y llun, Gŵyl Cefni

Eleni fe fydd Gŵyl Cefni ar Ynys Môn yn symud i faes parcio Neuadd y Dref, sef lleoliad gwreiddiol yr ŵyl pan gafodd ei sefydlu dros 20 mlynedd yn ôl.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r ŵyl yn Llangefni wedi bod yn cael ei chynnal yn nhafarn y Bull, sydd dipyn yn llai.

Mae Gŵyl Cefni yn wythnos o ddathliadau, gyda nosweithiau amrywiol o adloniant yn arwain at uchafbwynt yr ŵyl ar y dydd Sadwrn.

Mae disgwyl i gannoedd o bobl o bob cwr o'r ynys a thu hwnt fynd i fwynhau adloniant Cymraeg yno, gyda chyfle i artistiaid ifanc lleol berfformio.

Disgrifiad o’r llun,

Elen Hughes ydy un o drefnwyr Gŵyl Cefni

Mae Elen Hughes yn un o'r trefnwyr ar bwyllgor Gŵyl Cefni.

"Mae 'na arlwy o bob math yn cael ei gynnal yma yn ystod yr wythnos... cwis tafarn, helfa drysor, noson gomedi fydd yn arwain at y dydd Sadwrn lle mae'r brif gig yn digwydd," meddai.

"'Dan ni yn dîm bach iawn a bod yn onest, does 'na ddim llawer ohona ni wrthi ac mae o yn dipyn o waith.

"Felly 'dan ni'n croesawu gwirfoddolwyr newydd drwy'r flwyddyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Jones yn teimlo bod gwirfoddoli gyda'r ŵyl yn dod â budd i'w gymuned

Un sydd wedi bod yn gwirfoddoli gyda Gŵyl Cefni ers dros 13 o flynyddoedd bellach ydy Jamie Jones o Langefni.

Mae o a'i deulu wedi bod yn rhan o'r paratoadau ers misoedd bellach, ac yn mwynhau bod yn rhan o'r gwaith trefnu.

"Dwi'n hoffi cerddoriaeth a dwi'n caru fy nghymuned. Dwi'n licio 'neud lot i Langefni ac yn hoff o weld pan ti'n rhoi amser i dy gymuned ti'n gwerthfawrogi'r lle fwy, a dwi'n cael hynny wrth wirfoddoli," meddai.

"Dwi'n teimlo weithia' bod gen i wacky ideas ac yn trio meddwl y tu allan i'r bocs gyda phethau weithiau.

"Mae Gŵyl Cefni yn rhoi cyfle i mi rannu fy syniadau a dweud be dwi'n ei feddwl."

Ffynhonnell y llun, Gŵyl Cefni
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddolwyr yr ŵyl

Ymysg rhai o'r artistiaid sy'n perfformio ddydd Sadwrn fydd wynebau cyfarwydd fel Yws Gwynedd, Bwncath a Meinir Gwilym.

Ond peth arall sy'n rhan annatod o hunaniaeth Gŵyl Cefni ydy'r cynnig maen nhw'n ei roi i fandiau ac artistiaid ifanc, lleol berfformio ar y dydd Sadwrn.

Gyda channoedd yn mynychu'r ŵyl yn flynyddol, mae'n sylfaen i yrfa unrhyw artist ifanc sydd ar ddechrau eu gyrfa gerddorol.

Disgrifiad o’r llun,

Tesni Hughes yn barod i berfformio

Mae Tesni Hughes yn 19 oed ac yn byw'n lleol.

Mae hi wedi perfformio sawl gwaith ar lwyfan Gŵyl Cefni yn unigol ac yn rhan o fandiau amrywiol.

Eleni bydd hi'n perfformio gyda'i band unwaith eto, ac mae hi'n ysu i gamu ar y llwyfan eto eleni.

"Nes i ddechrau perfformio gyda Gŵyl Cefni yn 2019 gyda fy hen fand 'Aerobic', yna flwyddyn dwytha' nes i 'neud fy set gyntaf fel unigolyn," meddai.

"Ges i adborth rili da, felly dwi'n rili excited i berfformio ddydd Sadwrn.

"Heb gefnogaeth Gŵyl Cefni faswn i ddim wedi cyrraedd lle ydw i rŵan. Mae'n neis cael rhywle yn Llangefni, ar Ynys Môn sy'n cynnig hyn i ni.

"Mae lot yn meddwl bod rhaid gadael yr ynys i lwyddo, yn enwedig yn y maes celfyddydol, felly mae'n dda iawn bod gennym ni Gŵyl Cefni i ddangos be 'da ni'n ei 'neud.

"Mae'n hwb i'r ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carol Bown-Williams yn un o'r trigolion lleol sy'n hoff o fynychu bob blwyddyn

Mae Carol Bown-Williams yn byw yn yr ardal gyfagos, ac yn mynychu'r ŵyl yn flynyddol.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig ofnadwy i'r ynys i gael rhywbeth fel hyn ymlaen," meddai.

"Does dim cymaint ymlaen i bobl ifanc yr ardal, maen nhw'n gorfod mynd dros y bont yn aml os ydyn nhw isio cymdeithasu.

"Felly mae hyn yn hwb i'r iaith, hwb i ddiwylliant ac yn bendant yn hwb i Langefni hefyd - mae'n cael bob oed at ei gilydd, sy'n bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Erin a Catrin Jones

Mae Catrin ac Erin hefyd yn byw yn lleol, a dywedodd Erin ei bod hi'n dda "cael gŵyl fel hyn yn rhywle fel Llangefni i ddathlu'r Gymraeg yn yr ardal".

"'Dan ni'm yn cael llawer o bethau fel hyn, mae'r rhoi Llangefni ar y map," meddai.

Ychwanegodd Catrin eu bod yn mynychu'r ŵyl fel criw yn flynyddol, a bod Gŵyl Cefni yn "gyfle da i'r gymuned ddod at ei gilydd".

"Mae'n neis cael rhywbeth fel hyn ar ddechrau'r haf," meddai.

Pynciau cysylltiedig