Morgannwg wedi'u trechu gan Essex yn y T20

  • Cyhoeddwyd
Paul WalterFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Paul Walter serennu i'r ymwelwyr wrth fatio a bowlio

Cafodd Morgannwg eu trechu gan Essex yn y gystadleuaeth 20 pelawd yng Nghaerdydd nos Wener, wedi perfformiad cryf iawn gan yr ymwelwyr.

Gorffennodd Essex gyda 226 o rediadau am naw wiced gyda Paul Walter yn sgorio 78.

Roedd gan y tîm cartref tipyn o dasg o'u blaenau felly, a dechreuodd eu hymgyrch yn dda gyda thri o'u chwaraewyr yn cyrraedd dros 40 yr un.

Ond gwnaeth bowlio da gan Paul Walter ei wneud yn anodd i Forgannwg gan eu gadael ar 175 wedi'r 20 pelawd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn cwympo tu ôl i Essex yn y tabl.

Pynciau cysylltiedig