Pethau wedi mynd 'yn drasig o'i le' i Boris Johnson

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Boris Johnson fod yr ymchwiliad "heb ddangos unrhyw dystiolaeth" ei fod wedi camarwain y senedd ar bwrpas

Mae pethau wedi mynd "yn drasig o'i le" i Boris Johnson, yn ôl arweinydd y grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru.

Ond dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn "difaru fod y cyn-brif weinidog wedi gadael y llwyfan".

Fe wnaeth Mr Johnson ymddiswyddo fel Aelod Seneddol ddydd Gwener ar ôl derbyn adroddiad ynglŷn ag a oedd wedi camarwain y senedd am y partïon a gynhaliwyd yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo.

Mae'r cyn-brif weinidog wedi cyhuddo'r ymchwiliad o geisio ei "yrru allan".

'Wedi bod yn dod ers peth amser'

Dywedodd AS Llafur Gŵyr, Tonia Antoniazzi, ei bod yn "falch" o weld Mr Johnson yn ymddiswyddo.

"Mae hyn wedi bod yn dod ers peth amser. Gadewch i ni symud 'mlaen ac adeiladu gwleidyddiaeth well," meddai.

Ond dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, ei fod yn "drist" i'w weld yn mynd.

"Cyn belled ag ydw i yn y cwestiwn, fe wnaeth Boris y peth iawn ar Wcráin, fe wnaeth Boris y peth iawn gyda'r rhaglen frechu, ac fe wnaeth Boris y peth iawn ar Brexit," meddai AS Ceidwadol Mynwy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies fod "digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi bod yn syndod i lawer o bobl"

Yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Breintiau fis Mawrth fe wnaeth Mr Johnson gyfaddef camarwain y senedd, ond gwadodd ei fod wedi gwneud hynny ar bwrpas.

Cyfaddefodd nad oedd ymbellhau cymdeithasol wedi bod yn "berffaith" yn y digwyddiadau yn Downing Street.

Ond roedd yn mynnu eu bod yn ddigwyddiadau gwaith "angenrheidiol", ac nad oedd hynny yn erbyn y gyfraith.

Mewn datganiad yn dilyn ei ymddiswyddiad dywedodd Mr Johnson fod yr ymchwiliad "heb ddangos unrhyw dystiolaeth" ei fod wedi camarwain y senedd ar bwrpas.

Ychwanegodd fod yr ymchwiliad yn "llawn ffaeleddau a chamgymeriadau".

Bydd ei ymddiswyddiad yn arwain at isetholiad yn ei etholaeth - Uxbridge a De Ruislip.

Mae disgwyl i ganfyddiadau'r ymchwiliad gael eu cyhoeddi cyn hir, a bydd y Pwyllgor Breintiau yn cwrdd ddydd Llun.

'Rwy'n drist ei fod wedi mynd'

Dywedodd Andrew RT ar BBC Radio Wales fore Sadwrn: "Rwy'n cydnabod fod pethau wedi mynd yn drasig o'i le tuag at ddiwedd ei gyfnod fel prif weinidog.

"Wrth gwrs, roedd yn rhaid i bethau ddirwyn i ben, ac mae digwyddiadau'r dyddiau diwethaf wedi bod yn syndod i lawer o bobl."

Yn siarad ar raglen Any Questions BBC Radio 4 dywedodd David TC Davies: "Dydw i ddim am ymddiheuro am ddweud fy mod i wir yn hoff ohono, ac rwy'n drist ei fod wedi mynd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn gobeithio y bydd y datblygiadau yn sbarduno newid o fewn gwleidyddiaeth

Yn ymateb i ymddiswyddiad Mr Johnson a'r cyn-ysgrifennydd diwylliant, Nadine Dorries, dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ei bod yn gobeithio y bydd hynny yn ysgogi newid o fewn gwleidyddiaeth.

"Byddwn yn caru i'r ymddiswyddiadau heddiw sbarduno newid yn y ffordd mae cymdeithas yn rhoi gwerth ar onestrwydd ac atebolrwydd yn y byd gwleidyddol," meddai.

"Does dim rhaid i bethau fod fel hyn."

Ychwanegodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts: "Roedd yn ddyn oedd yn gyfforddus iawn dro ar ôl tro gyda dweud celwydd pan oedd hynny'n ei siwtio, a gwrthod cymryd cyfrifoldeb.

"Mae'r ffaith ei fod wedi ceisio rhoi'r bai ar y pwyllgor breintiau, pan fo mwyafrif y pwyllgor yn Geidwadwyr, yn dangos y ffordd mae meddwl y dyn yn gweithio."

Dywedodd AS Llafur Canol Caerdydd, Jo Stevens, fod Mr Johnson wedi "diraddio enw da ein gwlad, ein gwleidyddiaeth a'n democratiaeth. Ei fai ef yw hyn, a neb arall."