Eisteddfod: Cyhoeddi rhestr fer dysgwr y flwyddyn 2023
- Cyhoeddwyd

Y rhai sydd wedi dod i'r brig ydy Manuela Niemetscheck, Roland Davies, Alison Cairns a Tom Trevarthen
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu rhestr fer ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.
Eleni mae'r gystadleuaeth, a drefnir ar y cyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn dathlu ei phen-blwydd yn 40.
Cafodd 30 o unigolion eu cyfweld ar gyfer y gystadleuaeth eleni - y nifer uchaf erioed.
Y rhai sydd wedi dod i'r brig yw Alison Cairns o Lannerch-y-medd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Cafodd y pedwar eu dewis gan y beirniaid, sef Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Hannah Thomas. Bydd Tudur Owen yn cymryd lle Hannah Thomas ar gyfer y rownd derfynol yn yr Eisteddfod ym mis Awst.
Bydd enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar ddydd Mercher yr Eisteddfod a bydd y buddugol yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.
'Dim gwersi ffurfiol'

Mae Alison Cairns yn deall pwysigrwydd y Gymraeg wrth ymdrin â chleifion
Yn wreiddiol o'r Alban, mae Alison Cairns bellach yn byw yn Ynys Môn.
Yn fam i saith o blant, dechreuodd ddysgu'r iaith drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac "mae'n siarad yn hyderus, a hynny heb iddi gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed".
Cymraeg yw iaith y cartref ac mae Alison hefyd yn defnyddio'r iaith yn ei swydd ym myd gofal wrth ymdrin â chleifion.
Mae Alison yn mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi'n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd.
'Ymdrech ryfeddol'

Mae Roland Davies wedi bod yn perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn yn y sioe 'Y Mab Darogan'
Gwnaeth Roland Davies, o ardal Llanidloes, ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod â'i wraig, Fflur, a sylweddoli pa mor bwysig yw'r iaith iddi hi a'i theulu.
Mynychodd wersi Cymraeg, a threuliodd wythnos yn Nant Gwrtheyrn, tra hefyd yn defnyddio Duolingo a Say Something in Welsh i ymarfer yn ei amser rhydd. Mae gan Roland a Fflur dri o blant a Chymraeg yw iaith y cartref.
Mae Roland hefyd yn perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn ac mae newydd orffen teithio Cymru yn chwarae un o'r prif rannau yn sioe 'Y Mab Darogan'.
Cafodd ei enwebu am y wobr "oherwydd ei ymdrech ryfeddol i ddysgu Cymraeg ac am ei defnyddio'n ddyddiol gyda'r teulu, yn y gymuned ac yn y gwaith".
Pwysigrwydd Cymraeg ym myd iechyd

Mae Manuela Niemetscheck yn teimlo bod defnyddio'r Gymraeg yn bwysig o fewn y gwasanaethau iechyd
Yn wreiddiol o Ganada, mae Manuela Niemetscheck yn byw ym Methesda gyda'i theulu, gan weithio fel seicotherapydd celf yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Manuela'n siarad pum iaith a dysgodd Gymraeg drwy Wlpan, cwrs i ddysgwyr, a mynychu Nant Gwrtheyrn.
Cafodd ei hysbrydoli i ddysgu'r iaith gan ei bod yn credu bod defnyddio Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn bwysig a nodir bod "ei chyfraniad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn benodol yn Uned Hergest yn enfawr".
"Mae Manuela'n byw ei bywyd yn Gymraeg ac mae'n angerddol dros ein hiaith."
Darganfod iaith drwy addysg

Penderfynodd Tom Trevarthen ddysgu'r iaith ar ôl dod i Aberystwyth i astudio
Daeth Tom Trevarthen i Gymru i astudio yn y brifysgol, ond ar ôl disgyn mewn cariad ag Aberystwyth penderfynodd aros.
Cafodd swydd yn Ysgol Henry Richard yn Nhregaron a bu'n dysgu'r iaith drwy gyfrwng gwersi ar-lein yn ystod y cyfnod clo.
Mae Tom nawr yn astudio am radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ymchwilio i addysg yng Nghymru.
Mae'n defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol - wrth gymdeithasu, wrth weithio ac wrth astudio a bellach Cymraeg, nid Saesneg, y mae'n siarad gyda'i ffrindiau.
Mae Tom, meddir, yn "hynod gefnogol i ddysgwyr eraill ac yn eu hannog i ddyfalbarhau".
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli rhwng 5 a 12 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023