Ymosodiad Y Drenewydd: Dyn o flaen llys
- Cyhoeddwyd
![Stryd Frankwell, Y Drenewydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2819/production/_130056201_78876193-6693-418b-8d1f-8f11632f4459.jpg)
Fe gafodd dau ddyn eu hanafu mewn digwyddiad ar Stryd Frankwell ychydig cyn 18:00 ddydd Gwener
Fe fydd dyn 20 oed yn mynd o flaen ynadon ddydd Llun mewn cysylltiad ag ymosodiadau ar ddau ddyn yn Y Drenewydd.
Mae dyn 41 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiadau honedig yn Stryd Frankwell y dref nos Wener.
Cafodd dyn 51 oed ei anafu hefyd yn y digwyddiad.
Mae Kenneth Jones yn wynebu cyhuddiadau o anafu ac achosi niwed corfforol difrifol anfwriadol ac o ymosod gan achosi niwed corfforol.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod "yn parhau i ymchwilio i'r ymosodiadau difrifol" a bod Mr Jones yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Y Trallwng ddydd Llun.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2023