Gambia: Cymraes yn hybu ailgylchu ac ailddefnyddio

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

O Gymru i'r Gambia: Hanes gwaith Dr Rebecca Colley-Jones i leihau gwastraff

Mae Cymraes wedi bod yn helpu gyda phrosiect i leihau gwastraff yn y Gambia yng ngorllewin Affrica.

Mae Dr Rebecca Colley-Jones wedi bod yn gweithio gydag entrepreneuriaid a phobl leol yn y Gambia er mwyn eu haddysgu a'u hannog i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau fel plastig.

Mae'r rhan fwyaf o wastraff y Gambia ar hyn o bryd yn cael ei ollwng mewn tomenni sbwriel neu ei losgi, ac mae llawer o'r gwastraff sydd heb ei gasglu yn llygru Afon Gambia - gan gael effaith hirdymor ar iechyd pobl a natur y wlad.

Ymysg y syniadau mae defnyddio hadau ffrwyth baobab i greu nwyddau harddwch, a gweddillion cnau coco er mwyn creu tanwydd.

Ffynhonnell y llun, Wasteaid
Disgrifiad o’r llun,

Fel rhan o'r cynllun, mae gwastraff cnau coco yn cael ei droi'n danwydd i goginio

Mae Dr Colley-Jones yn arbenigo ar yr economi gylchol ac mae'n un o arweinwyr prosiectau WasteAid.

Yn siarad ar Dros Frecwast esboniodd bwysigrwydd yr economi gylchol.

Dywedodd: "Os 'da ni'n edrych ar economi gyffredin 'da ni'n cymryd pethau allan o'r ddaear, 'da ni'n creu products ac wedyn ar ddiwedd eu bywyd da ni'n lluchio nhw i ffwrdd.

"Ond 'efo economi gylchol be 'da ni'n trio neud ydy gwneud y products yma fel bod nhw'n para mwy, rhoi mwy o lifetime iddyn nhw, a pan 'da ni wedi gorffen 'efo nhw, cadw'r materials i gyd a rhoi nhw'n ôl... i products newydd."

Ffynhonnell y llun, Wasteaid
Disgrifiad o’r llun,

Does dim casgliadau ailgylchu yn y Gambia, ond y gobaith yw atal peth o'r plastig rhag cael ei wastraffu

Dywedodd bod system wastraff y Gambia yn wahanol iawn i'r hyn sydd gennym yng Nghymru.

"Does gynnon nhw ddim y casgliadau [ailgylchu] sydd gennon ni yn Ewrop, does 'na ddim rhywun yn dod i gasglu gwastraff bob wythnos," dywedodd.

"So be 'da ni'n trio gwneud ydy creu marchnadoedd gyda'r entrepreneurs.

"Mae gynnon ni cirucular economy network a beth sy'n digwydd yn fanna ydy bod pawb yn dod at ei gilydd ac wedyn da ni'n edych ar ba fath o products gallen ni neud 'efo plastig 'di ailgylchu, 'efo dillad 'di ailgylchu.

"Er enghraifft 'da ni'n defnyddio ffrwyth... da ni'n edrych ar os da ni'n gallu defnyddio'r hadau i greu olew i'r wyneb."

Ffynhonnell y llun, Wasteaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae creu'r tanwydd yn lleihau gwastraff ac yn creu incwm i bobl yr ardal

Yn y Gambia bu Dr Colley-Jones hefyd yn gweithio gyda grŵp o fenywod lleol, gan eu helpu i ddefnyddio rhandiroedd er mwyn creu siarcol a brics tanwydd er mwyn lleihau faint o goed sy'n cael eu torri i lawr.

"On i'n gweithio gyda women's garden group, o'n nhw'n creu siarcol," dywedodd.

"Ma' lot o bobl yn defnyddio siarcol a briquettes i goginio a be' oedden ni'n 'neud oedd edrych ar system lle ma' nhw'n defnyddio gwastraff... a ma' nhw'n creu briquettes.

"Ma' hynna'n creu incwm ychwanegol iddyn nhw a hefyd mae'n stopio gorfod torri lawr coed."

Teimla mai drwy gylluniau ar lefel lleol fel hyn mae mynd i'r afael â'r broblem, gan nodi er bod defnydd plastig untro yn broblem byd eang, fod yr ateb yn gallu bod yn wahanol o le i le.

Pynciau cysylltiedig