'Gallai ffermwyr golli swyddi heb help i gyrraedd sero net'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cymorth ar ffermydd da byw i addasu at ddyfodol sero net, neu bydd colledion swyddi sylweddol - dyna rybudd arbenigwyr sy'n cynghori llywodraethau'r DU.
Magu defaid a gwartheg mae'r rhan fwyaf o amaethwyr yng Nghymru.
Ond mae'r sector wedi'i frandio mewn adroddiad fel un sydd angen "arallgyfeirio", wrth i gymdeithas ddadgarboneiddio er mwyn cyrraedd targedau atal newid hinsawdd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod eisoes yn gweithredu i sicrhau "trawsnewidiad teg" at sero net.
'Goblygiadau sylweddol'
Mae gan Gymru, fel y DU, darged mewn cyfraith i gyrraedd sero net erbyn 2050 - a hynny'n golygu bod yn rhaid torri'n ddramatig ar allyriadau nwyon tŷ gwydr fel nad yw'r wlad bellach yn cyfrannu at gynhesu byd eang.
Mae'r corff sy'n cynghori gweinidogion ar newid hinsawdd yn rhagweld "goblygiadau sylweddol" ar gyfer y gweithlu amaethyddol.
Gallai rhwng 7,000 a 42,000 o swyddi gael eu colli ar draws y DU os nad yw ffermydd da byw yn benodol yn medru addasu natur eu gwaith, meddai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC).
Mae'r arbenigwyr yn rhagweld y bydd rhai ffermydd yn lleihau nifer yr anifeiliaid y maen nhw'n eu cadw, gan ddefnyddio'u sgiliau i symud i mewn i feysydd eraill fel garddwriaeth a choedwigaeth.
Byddai hyn yn cael ei yrru gan newidiadau i ddefnydd tir fel bod mwy o'r nwyon sy'n cynhesu'r atmosffer yn gallu cael eu hamsugno a'u storio mewn coed a mawndiroedd, a thrwy newidiadau yn neiet pobl i fwyta llai o gig a llaeth.
Dywedodd yr adroddiad y byddai Cymru - yn ogystal â'r Alban - wedi'u taro'n benodol oherwydd pwysigrwydd amaethu da byw i ardaloedd gwledig.
Roedd amaethyddiaeth yn gyfrifol am 14% o allyriadau Cymru yn 2019 - gyda dau draean o'r rheiny yn nwy methan o systemau treulio'r anifeiliaid a'u gwrtaith.
Mae'r trawsnewidiad at sero net "nid yn unig yn peri risg i ffermwyr ond hefyd cymunedau gwledig" oherwydd y cysylltiadau cryf rhwng amaeth a diwylliant lleol, meddai'r adroddiad.
Tra fyddai cyrraedd sero net yn golygu llai o bobl yn gweithio gyda da byw yn unig, mae'r CCC yn pwysleisio nad yw o reidrwydd yn mynd i arwain at ostyngiad yn yr angen am weithwyr amaethyddol.
Gallai hefyd ddod â mwy o alw ar gyfer swyddi sy'n talu'n dda yng nghefn gwlad fel agronomegwyr, ecolegwyr ac arbenigwyr tyfu coed.
'Dim rhaid ymosod ar y sector'
Dywedodd Chris Stark, prif weithredwr y CCC wrth BBC Cymru na ddylai'r newidiadau "orfod bod yn ymosodiad" ar y sector ffermio da byw.
Ond bydd angen help ar fusnesau i addasu a ffocws ar sgiliau, hyfforddiant ac annogaeth ariannol - byddai "agwedd hands-off" gan lywodraethau ddim yn gweithio, meddai.
"Dyw hyn ddim yn golygu dod â diwedd i'r arferion hynny a'r ffordd yna o fyw - yn hytrach mae angen eu hesblygu a'u hamrywio nhw fel bod 'na rywbeth gyda ni ar y diwedd sy'n wirioneddol gynaliadwy."
Dywedodd dirprwy lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman y byddai angen cefnogaeth ar y genhedlaeth hŷn - "hyfforddiant a help i gofleidio technolegau newydd a ffyrdd gwahanol o weithio".
"Byddai cynhyrchu bwyd mewn modd mwy effeithlon" yn helpu lleihau ôl troed carbon ffermydd, sy'n ysu i gael eu gweld fel "rhan o'r ateb" i newid hinsawdd, meddai.
Bellach mae Mr Rickman yn ffermio mewn partneriaeth â Sean Jeffreys, 26, fel rhan o gynllun sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gysylltu ffermwyr ifanc a thirfeddiannwyr.
Mae'r ddau yn gweithio'n galed ar elfennau amgylcheddol y fferm 84 hectar ger Bethlehem, Sir Gaerfyrddin, meddai Mr Jeffreys.
Mae hynny'n cynnwys amrywio'r glaswelltydd yn eu caeau i gynnwys perlysiau a chodlysiau er mwyn hybu bioamryiaeth ac ansawdd y pridd.
"Dwi yn becso am y dyfodol i fod yn onest gyda chi," cyfaddefodd.
"Os ni'n cadw fynd importo bwyd o dramor a lleihau'r cynhyrchiant yn y wlad yma fi'n meddwl ni jyst yn rhoi'r broblem i bobl eraill."
Ffermio oedd "asgwrn cefn yr economi wledig", meddai Mr Rickman, a dywedodd y byddai gweld colledion swyddi mawr yn "drychinebus".
'Gallai gael effaith ar swyddi'
"Mae'r daith tuag at net zero yn golygu ffordd newydd o weithio, ac fe all hyn gael effaith ar swyddi," eglurodd Penri James, darlithydd gwadd mewn amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Mae'n ystod eang yn ôl yr adroddiad - rhwng 7,000 a 42,000 - a hynny'n dangos bod 'na nifer o ffactorau sy'n ansicr neu'n anwadal o ran hynny," ychwanegodd.
"Ond mae'n glir bod angen strategaeth ar y llywodraeth sy'n cyfuno'r daith at net sero ar y diwydiant amaeth, i helpu gyda hyfforddiant a'r broses o newid.
"Ond hefyd i ddelio â'r gwahaniaeth fydd yn digwydd yn argaeledd bwyd dros gyfnod hir o amser."
Ychwanegodd: "Dwi'n credu bod angen i'r llywodraeth edrych ar hyn o ddifri' yn ystod y blynyddoedd i ddod.
"Os nad y'n ni'n cael hwn yn gywir yna fe allai fod 'na golledion swyddi sylweddol mewn ardaloedd gwledig a busnesau hyfyw yn diflannu."
Byddai hynny'n cael effaith economaidd-gymdeithasol hefyd, eglurodd, gan gynnwys ar ddyfodol yr iaith Gymraeg.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad, a'i fod yn tanlinellu "hyd yn oed yn fwy" pam bod eu cynlluniau i drawsnewid y system taliadau cymorth i ffermydd yn allweddol.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy'n cael ei gyflwyno o 2025 yn "rhoi cymorth i ffermwyr gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy tra'n delio hefyd gyda'r argyfyngau hinsawdd a natur", meddai.
Mewn datganiad dywedodd Adran Diogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU bod "ein cynlluniau ar gyfer swyddi gwyrdd yn sicrhau nad yw'r un gweithiwr yn cael ei adael ar ôl".
"Ry'n ni'n buddsoddi bron i £4bn i gefnogi pobl i ailhyfforddi, sy'n bell o fod yn agwedd hands-off," meddai'r llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019