'Fflat a chrac' bod y we yn rhannau o Sir Gâr yn araf
- Cyhoeddwyd
Mae rhai cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin yn pryderu am ddyfodol cynlluniau i ddod â ffeibr i'w cartrefi, ac y bydd yna oedi pellach cyn iddyn nhw gael cysylltiad cyflym â'r we, ar ôl i un o'r prif ddarparwyr amgen gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Mae Broadway Partners eisoes wedi cwblhau rhai prosiectau yn Sir Benfro, ac roedd y cwmni wedi gobeithio cysylltu 250,000 o dai yng Nghymru a'r Alban erbyn 2025, sef y rhai oedd wedi methu cael cysylltiad ffeibr gyda'r darparwyr mawr.
Yn ôl Liz Evans, sy'n byw yn Ffair-fach gyda'i phartner a dau o blant, mae pobl yn teimlo'n "fflat ac yn grac" o glywed y newyddion gan bod y gymuned "mor agos" at gael cysylltiadau cyflym.
Mae hi'n gobeithio gweld prynwr yn "camu mewn" i achub y cwmni.
Yn ôl gweinyddwyr Broadway Partners, Teneo, yn "seiliedig ar ddiddordeb prynwyr hyd yn hyn,.. ry'n ni'n obeithiol y bydd ardaloedd gwledig yn medru parhau i gael gwibgyswllt â'r we".
Mae dwy gymuned yn ardal Llandeilo - Dyffryn Cennen a Llanfihangel Aberbythych - wedi dewis Broadway Partners fel y cwmni i ddarparu cysylltiadau cyflym â'r we i 1,200 o dai, ac yn defnyddio cynllun talebau gwibgyswllt Llywodraeth y DU i dalu am y costau cysylltu.
Defnyddio un ddyfais ar y tro
Yn ôl Liz Evans, mae'r gwasanaeth presennol yn hollol annigonol.
"Os mae'r pedwar ohonom ni yn y tŷ, dim ond un ddyfais sydd yn medru bod arno ar y tro," meddai. "Peth caled gyda dau fachgen!
"Os mae eisiau gwneud gwaith cartref ar Hwb neu Teams mae'n rhaid i fi ddweud wrth un i fynd gyntaf.
"Os ni mo'yn gwylio ffilm, mae'n rhaid gwneud yn siŵr fod popeth arall bant.
"Dwi'n gwneud cyfarfodydd ar-lein o adref, ac mae'n rhaid gwneud yn siŵr fod bob dyfais bant.
"Mae fy mhartner yn gyfreithiwr ac mae'n gwneud gwrandawiadau llys ar-lein, ond dyw e ddim yn gallu gwneud nhw o adref."
Roedd Broadway Partners wedi gosod cabinet newydd ar gyfer cysylltiadau ffeibr gyferbyn ag Ysgol Tre-gib, rhyw 10 diwrnod cyn bod y cwmni yn mynd i ddwylo gweinyddwyr.
'Fflat ac yn grac'
Mae Liz Evans yn gobeithio daw prynwr i'r fei, er mwyn achub y cwmni a'r cynlluniau presennol i ddod â ffeibr i gartrefi'r ardal.
"Bydde fe yn neis petasem ni fel cymuned yn cael update, i weld beth sydd yn digwydd, fel gallwn ni fynd at rywun arall, os mae rhywun arall yn gallu 'neud y gwaith yn lle nhw.
"Ni'n teimlo bach yn fflat ac yn grac. Ro'n i mor agos. I rywun sydd yn mynd i ddod mewn, mae llawer o'r gwaith wedi ei wneud. Gobeithio bydd rhywun ar gael i gamu mewn."
Mae aelod Plaid Cymru dros Orllewin a Chanolbarth Cymru, Cefin Campbell, yn dweud bod yna lawer o rwystredigaeth yn yr ardal am y sefyllfa.
"Ni'n ôl mewn limbo a chyfnod o ansicrwydd, ac mae cymunedau gwledig yn parhau i aros am y math o wasanaeth sydd yn rhywbeth cyffredin iawn mewn ardaloedd trefol," meddai.
"Wrth i'r cwmni fynd i ddwylo gweinyddwyr, mae'n rhaid aros a gobeithio daw cwmni i brynu nhw ac mae hynny yn mynd i ailddechrau'r broses o gasglu enwau a diddordeb.
"Mae hynny yn golygu oedi efallai o sawl blwyddyn. Mae'n fater o rwystredigaeth enfawr. Mae goblygiadau hyn yn sylweddol."
Mewn datganiad, dywedodd un o'r cyd-weinyddwyr, Benji Dymant o Teneo: "Mae'r cyd-weinyddwyr yn parhau i redeg y busnes a chadw cwsmeriaid ar-lein tra ein bod ni yn chwilio am brynwr.
"Yn seiliedig ar ddiddordeb prynwyr hyd yn hyn, ni'n obeithiol y bydd ardaloedd gwledig a Chymru yn parhau i elwa o wasanaethau gwibgyswllt."
'Tyfu'n rhy gyflym'
Yn ôl Mark Jackson, Golygydd ISP Preview mae darparwyr amgen fel Broadway yn dioddef yn sgil costau cynyddol - cyflogau, cyflenwadau cyflenwi, ynni ac yn y blaen, cystadleuaeth gan rwydweithiau eraill a'r her o geisio denu cwsmeriaid mewn marchnad fel hon.
"Roedd Broadway yn adeiladu rhwydweithiau mewn llefydd anghysbell iawn, sydd yn cynyddu'r risg y bydd y gwaith yn cymryd mwy o amser, yn cyrraedd llai o dai dros ardal eang iawn," dywedodd.
"Mae ceisio gwneud elw felly yn heriol. Fe ddechreuodd Broadway fel darparwr bach, cyn cael buddsoddiad sylweddol. Roedd y busnes yn gorfod tyfu yn gyflym iawn mewn marchnad gystadleuol iawn.
"Fe fydd unrhyw un sydd â phrofiad busnes yn gwybod y gall pethau fynd o'i le wrth ehangu yn gyflym."
"Rwy'n credu fod Broadway wedi tyfu yn rhy gyflym mewn amgylchedd oedd wedi troi'n heriol iawn mewn byr o amser.
"Rwy'n ymwybodol bod rhai rhwydweithiau eraill wedi dangos diddordeb mewn prynu rhannau o rwydwaith Broadway.
"Gan bod yr is-adeiledd wedi ei rannu rhwng Cymru a'r Alban, efallai y bydd hi'n fwy anodd i werthu'r rhwydwaith mewn un darn.
"Y newyddion da yw mae Broadway wedi adeiladu mewn ardaloedd ble nad oes llawer o gystadleuaeth, sydd yn mynd i ddenu prynwyr," ychwanegodd Mr Jackson.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020