Arestio tri ar amheuaeth o lofruddiaeth yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ffordd CefnFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyn 59 oed wedi llewygu ar lôn gyfagos i Ffordd Cefn yn Wrecsam

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio trydydd dyn o ardal Wrecsam ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn digwyddiad yn y ddinas ddechrau'r wythnos.

Fe gafodd y llu wybod am 06:42 fore Llun bod dyn wedi llewygu ar lôn gyfagos i Ffordd Cefn, Wrecsam.

Cafodd y dyn - John Ithell, 59, o ardal Pentre Gwyn - ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn fuan wedyn.

Mae un o'r ddau ddyn a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn gynharach yr wythnos hon wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth erbyn hyn tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae'r ail ddyn yn parhau yn nalfa'r heddlu, ac mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig