Môn: Dirpwy yn camu lawr dros sylw 'saethu Ceidwadwyr'

  • Cyhoeddwyd
Cynghorydd Ieuan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ieuan Williams yn arweinydd y cyngor rhwng 2013 a 2017 ac yn ddirprwy i Llinos Medi ar ôl hynny

Mae Cyngor Môn wedi cadarnhau fod dirprwy arweinydd y cyngor wedi sefyll i lawr yn dilyn sylw "amhriodol ac annerbyniol".

Mae Ieuan Williams, oedd yn dal portffolio addysg a iaith Gymraeg yr awdurdod, hefyd wedi cyfeirio'i hun at y Pwyllgor Safonau.

Yn ôl Wales Online, yn ystod cyfarfod mewnol ddydd Llun roedd y cynghorydd wedi dweud fod "angen saethu pob Ceidwadwr".

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Cyngor Môn fod y Cynghorydd Williams "wedi derbyn fod ei sylwadau yn annerbyniol ac wedi ymddiheuro".

Yn cynrychioli ward Lligwy ac yn arwain y Grŵp Annibynnol, roedd hefyd yn arweinydd y cyngor rhwng 2013 a 2017.

Dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol yr ynys ei bod "wedi'i ffieiddio" gan ei sylwadau, ac "mai'r lleiaf y gallai fod wedi ei wneud oedd ymddiswyddo yn dilyn ei sylw echrydus".

'Wedi ymddiheuro i bob aelod'

Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Williams wrth Cymru Fyw ei fod yn "ymddiheuro'n fawr" dros ei "sylw amhriodol".

Gan ddweud fod y sylw wedi dod "ar ddiwedd datganiad llawn emosiwn yn dilyn cyflwyniad ar dlodi" ychwanegodd ei fod wedi ymddiheuro i bob aelod a oedd yn bresennol.

"Yn amlwg nid wyf yn dadlau o blaid saethu neb," meddai.

"Rwyf hefyd wedi cyfeirio fy hun at y Pwyllgor Safonau ac wedi ymddiswyddo fel dirprwy arweinydd ac aelod o'r weinyddiaeth tra bod unrhyw ymchwiliad posibl yn cael ei gynnal.

"Nid yw hyn yn ymwneud ag unrhyw unigolyn. Y mater go iawn dan sylw yma yw'r hyn a'm gwnaeth mor flin ac emosiynol yn y lle cyntaf.

"Mae gennym gynnydd o 99% yn y defnydd o fanciau bwyd ar Ynys Môn yn y tri mis ers Tachwedd 2022.

"Mae bron i draean o'n plant ar Ynys Môn yn byw mewn tlodi er bod y DU yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd."

Gan ychwanegu fod y rhaglen o lymder "wedi arwain at doriadau i wasanaethau hanfodol" ac fod "y bwlch rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf yn tyfu", fe ddywedodd: "Rwy'n gobeithio y bydd pobl Ynys Môn yn gweld mai'r mater go iawn yma yw fy angerdd i ymladd cornel y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn erbyn plaid sy'n ymddangos yn hapus i anghofio amdanyn nhw.

"Nid yw'n briodol imi wneud unrhyw sylw pellach gan fy mod wedi cyfeirio fy hun at y Pwyllgor Safonau."

'Condemnio'n gryf'

Tra'n siarad yn y Senedd ddydd Mercher dywedodd aelod Ceidwadol dros y gogledd fod yr iaith a ddefnyddiwyd gan gyn-ddirprwy arweinydd Cyngor Môn yn "anweddus".

Yn ôl llefarydd y blaid ar lywodraeth leol, Sam Rowlands, roedd sylwadau Mr Williams yn creu "awyrgylch aflan".

"Byddwn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, bod dau AS yn y DU, dros y saith mlynedd diwethaf, wedi eu llofruddio - un Llafur ac un Ceidwadwr," meddai.

"Trais llythrennol yw hwn, a dylai unrhyw ymgais i ddirnad trais fel yna, yn fy marn i, gael ei gondemnio'n gryf.

"Mae'r iaith a ddefnyddiodd Ieuan Williams, fe y dywedais i, yn anweddus, ac yn creu awyrgylch aflan o amgylch ein gwleidyddiaeth, yn enwedig gan rywun mewn sefyllfa o arweinyddiaeth, sydd bellach wedi rhoi'r gorau iddi, fel rwy'n dweud, fel dirprwy arweinydd cyngor Môn".

Wrth ymateb ar ran Llywodraeth Cymru dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, fod yn rhaid i wleidyddion "sefyll ysgwydd wrth ysgwydd yn erbyn unrhyw fath o gamdriniaeth".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rebecca Evans mai penderfyniad Ieuan Williams i gyfeirio'i hun i Bwyllgor Safonau'r cyngor oedd "y ffordd briodol ymlaen".

"Mae dadl iach yn fendigedig," meddai. "Mae'n bwysig iawn gallu herio ein gilydd, ond hefyd gwneud hynny mewn ffordd sy'n barchus.

"Dw i'n meddwl ei bod hi'n iawn bod yr unigolyn dan sylw wedi gofyn i bwyllgor safonau'r awdurdod lleol edrych ar yr hyn ddigwyddodd.

"Rwy'n meddwl yn bendant mai dyna'r ffordd briodol ymlaen".

'Ei sylwadau yn annerbyniol'

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Môn, Dylan J Williams: "Mae'r sylw a gafodd ei wneud yn amhriodol ac yn annerbyniol.

"Fel Prif Weithredwr, dydw i ddim yn gyfrifol am sylwadau unigol a wneir gan aelodau etholedig.

"Yn dilyn trafodaeth â'r Cynghorydd Williams yn gynharach heddiw, mae o wedi cyfeirio ei hun at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau.

"Yn y cyfamser, mae o hefyd wedi sefyll i lawr fel Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Addysg a'r Gymraeg.

"Mae'r Cynghorydd Williams wedi derbyn fod ei sylwadau yn annerbyniol ac wedi ymddiheuro."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Virginia Crosbie ei bod "wedi'i ffieiddio" gan ei sylwadau, ac "mai'r lleiaf y gallai fod wedi ei wneud oedd ymddiswyddo yn dilyn ei sylw echrydus"

Dywedodd Virginia Crosbie, AS Ceidwadol yr ynys ers 2019: "Mae angen i arweinydd y cyngor gael trefn ar ei thŷ ac atal yr ymddygiad hwn.

"Casineb yw hyn. Mae'r Cynghorydd Williams yn gwybod fy mod yn gwisgo fest atal trywanu mewn cymorthfeydd ond mae'n dal i ddweud yn y dylwn i ac eraill sy'n Geidwadwyr gael eu saethu.

"Mae dau AS wedi colli eu bywydau yn y saith mlynedd diwethaf ac mae'n dal i feddwl bod dweud pethau fel hyn yn iawn."

Pynciau cysylltiedig