Rhigos: Tân 100 hectar yn cau ffordd fynyddig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tân ar Fynydd y Rhigos

Cafodd ffordd fynyddig ei chau am gyfnod yn dilyn tân awyr agored dros 100 hectar yn sir Rhondda Cynon Taf.

Mae diffoddwyr wedi bod yn ymdrin â'r tân ar Fynydd y Rhigos a ddechreuodd am 18:00 ar 9 Mehefin.

Gyda'r tân wedi ail-gynnau ddydd Mawrth, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi gofyn i bobl osgoi'r ardal ac i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau.

Cafodd mynediad i'r A4061, sy'n cysylltu Pen-y-bont ar Ogwr â Hirwaun, ei chau am 13:00 ddydd Mercher, cyn ailagor yn nes ymlaen yn y noson.

Mae'n un o nifer o danau gwyllt y mae criwiau tân ledled Cymru yn delio â nhw.

'Arafu lledaeniad'

Dywedodd Sally Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ers i ni ddod yn ymwybodol o'r tân ar Fynydd y Rhigos ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Garan Thomas

"Mae'r llosgi o dan reolaeth a rhwystrau tân yn cael eu defnyddio i arafu lledaeniad y tân.

"Mae sawl injan dân wedi eu darparu i helpu i reoli'r tân, yn ogystal â hofrennydd."

Dywedodd fod ymdrechion ar y gweill i'w atal rhag lledaenu at gyfeiriad atyniad Zip World.

Disgrifiad o’r llun,

Bu i'r tân ar Fynydd Rhigos ail gynnau ddydd Mawrth

Ychwanegodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod eu staff yn wynebu "amodau peryglus a heriol" ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Gwasanaeth Tân y Canolbarth a'r Gorllewin eu bod yn taclo tanau yn Soar y Mynydd, Ceredigion, ardal Doc Penfro, a Mynydd Pantmawr yn Aber-craf.

Mae criwiau hefyd yn Llanddewi Brefi, Ceredigion, yn Coelbren, Abercraf ac yng Nghynwyl Elfed, ger traciau Rheilffordd Gwili, Caerfyrddin.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Hope yn galw ar bobl i osgoi defnyddio pyllau tân neu losgi gwastraff gardd er mwyn arbed adnoddau

Dywedodd Craig Hope o Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru fod yr amgylchiadau'n "eithriadol" a bod "straen ar adnoddau".

Ond ychwanegodd: "Bydd gennym wastad adnoddau ar gael i ymateb i danau eiddo, hyd yn oed os oes rhaid i ni eu tynnu i fewn gan wasanaethau eraill."

Fe wnaeth hefyd alw ar bobl i osgoi defnyddio pyllau tân neu losgi gwastraff gardd, gan "does dim angen y baich ychwanegol yna ar ein hymateb".