Lluniau: Bywyd gwyllt Caerdydd a'r Fro
- Cyhoeddwyd
Digwyddodd, darfu, megis seren wib.
Dyna eiriau enwog y bardd R. Williams Parry am y profiad o weld llwynog.
Tipyn mwy o gamp yw gweld a dal rhyfeddod fel y llwynog ar gamera.
Ond un sydd yn llwyddo i wneud hynny yng nghanol ac ar gyrion ardaloedd trefol Cymru yw Gildas Griffiths o'r Barri.
Tynnu lluniau i ymlacio yn ystod Covid
Dim ond ers ychydig flynyddoedd mae Gildas wedi troi ei law at ffotograffiaeth, a'r ysgogiad oedd ffeindio ffyrdd i ymlacio rhwng cyfnodau clo ac yn ystod cyfnodau tywyll y pandemig.
Yn rhinwedd ei swydd fel Dirprwy Bennaeth Trafnidiaeth i'r GIG yng Nghymru, wynebodd Gildas heriau enfawr yn sgil argyfwng Covid-19.
Meddai: "Tynnu lluniau natur wnaeth helpu fi ymlacio, ymdopi efo straen ac i feddwl am rywbeth gwahanol.
"Mae fy swydd yn golygu bod yn gyfrifol am unrhyw beth sy'n mynd mewn cerbyd sydd ddim yn glaf, felly yn ystod Covid, cwestiwn y Llywodraeth i fi oedd sut byddai 3 miliwn o bobl Cymru yn cael eu brechlyn cyntaf pan fyddai ar gael.
"Roedd rhaid meddwl sut bydden ni'n cael stociau o'r brechlyn i gyrraedd y canolfannau brechu. Oedd hwnna yn sialens a ges i lot o'r syniadau ynglŷn â gwneud strategaethau tra bo' fi yn eistedd yn rhywle yn tynnu lluniau. Dwi ddim yn meddwl ga i sialens fel Covid yn fy ngwaith byth 'to."
Taith Taf fel saffari!
Ar ôl ymarfer ei grefft fel ffotograffydd yn ystod 2020-2022 wrth dynnu lluniau o dirwedd a morlyn Bro Morgannwg a thu hwnt, fe ffeindiodd Gildas angerdd tuag at dynnu lluniau o fywyd gwyllt eleni.
Mae Gildas wedi ei ryfeddu gyda'r amrywiaeth cyfoethog o fywyd gwyllt sydd ym mharciau, ar lwybrau a gerllaw priffyrdd ardaloedd trefol de Cymru, dim ond i rywun agor ei lygaid a dechrau sylwi.
"Nes i ddechre cerdded yr un llwybrau arfordir yn lleol a thynnu lluniau o fywyd gwyllt yn lle'r tirlun. Nes i ddechrau ehangu fe, dwi'n byw yn y Barri a mae fy mam yn byw ym Mhontypridd, be wnes i ddechrau 'neud wedyn oedd cerdded mwy lan tua Pontypridd, treulio mwy o amser ar lwybr Taith Taf.
"Ddechreues i bod yn bach o saddo fan hyn - yn cuddio mewn gwrychoedd a chael y camera yn barod a jest yn gobeithio neith rwbeth ddigwydd.
"O'n i'n meddwl, 'fyddai fan hyn am orie nawr' a o'n i ddim. Bron bob tro dwi wedi bod yn tynnu lluniau, mae 'na rywbeth wedi cerdded ar draws ble ydw i a 'wy wedi meddwl, 'o gobeithio bo fi wedi dal y llun yna', fi wedi gwasgu clic ar y camera a dyna fe!"
Ond mae Gildas yn cyfaddef mai nid ar chwarae bach mae dal rhyfeddodau bywyd gwyllt Cymru ar gamera:
"'Wy wedi bod yn edrych lan ar beth i chwilio amdano fe erbyn hyn, ble maen nhw'n mynd i fod, pa amser o'r dydd.
"'Wy'n talu lot mwy o sylw nawr, os i fi'n gweld rhywbeth yn symud neu'n clywed sŵn 'wy'n meddwl, 'beth yw hwnna'.
"Fi'n hala'r plant yn wyllt yn enwedig yn y car o amgylch Y Barri; mae hewl sy'n gadael Y Barri i fynd ar yr M4 i Gaerdydd, y five mile lane ac mae 'na lot o gaeau ar bob ochr i'r five mile lane.
"Mae'r ardal yn absolutely riddled gydag adar ysglyfaethus achos mae lot o gwningod yn y caeau. Felly pan fi'n gyrru nawr mae'r camera yn barod mewn rhywle cyfleus yn y car gyda fi er mwyn i fi allu stopio yn rhywle saff os fi'n gweld rhywbeth.
Bwncath Parc Porthceri
Un o'r profiadau sy'n fyw yn y cof i Gildas yw tynnu llun o fwncath ym Mharc Gwledig Porthceri.
Eglura: "Mae'r llun yma yn cracyr achos oedd hwnna yn hela ar y pryd ym Mharc Porthceri. Beth oedd yn ddoniol amdano fe oedd, oedd yna gwpwl yn eistedd o dan y goeden yn cael barbeciw, oedd plant yn rhedeg rownd yn chwarae pêl; doedd dim syniad gyda nhw bod yr aderyn anferth yma yn edrych i lawr drostyn nhw a'u bwyd!
"Es i lan atyn nhw wedyn a dweud mod i wedi bod yn tynnu lluniau ac ati. Welon nhw'r llun, dweud 'that's incredible' a gofyn lle dynnes i'r llun a wedes i, 'you won't believe this but it was standing on that branch right behind you for 20 minutes watching you!'"
Llwynog llethrau Mynydd y Garth
"Tynnes i lun y llwynog yn eitha agos i lwybr Taith Taf, tra bo' ti'n cerdded lan at waelod y Garth. Ond mae 'na lot o dai o amgylch dim ond i ti gerdded am tua pum munud.
"Beth sydd yn sefyll mas am y llwynog yw pan ti'n gweld llwynog sy'n byw yn eitha' agos i dai maen nhw fel arfer yn eitha scabby. Dyw'r un yma ddim.
"Un ifanc sydd yn y llun ac os i ti'n edrych ar ei wyneb a'i wallt e, mae e'n byw yn eitha da fyn'na, mae e'n cael digon o fwyd.
"Tynnes i'r llun am tua 7.30 yn y bore. Dwi'n dewis yr amser o'r dydd yn ofalus a mynd ar lwybrau tawelach."
Tynnu lluniau tra'n parchu bywyd gwyllt
Y prif beth sy'n bwysig i Gildas wrth ddogfennu bywyd gwyllt ei ardal yw ei ddiogelu a'i barchu wrth wneud.
Eglura ei dechneg: "Wy'n defnyddio camera panasonic mirrorless a 'wy'n defnyddio mathau gwahanol o lens.
"Bostes i y llun yma o'r dylluan frech fach ar y cyfryngau cymdeithasol a roedd rhai yn fy meirniadu i am amharu a bod yn rhy agos.
"Beth oedden nhw ddim yn sylweddoli oedd, o'n i tua 10 metr i ffwrdd. Doeddwn i ddim yn amharu o gwbl a dwi ddim yn dweud le yn union mae'r llun wedi ei dynnu achos sa i moyn i bobl wedyn i feddwl, 'awn ni i fan yna i dynnu lluniau'.
Dal sgwarnog
"Pan weles i'r sgwarnog o'n i yn trio tynnu llun o ryw aderyn oedd yn hedfan nôl a mlaen a nath e jest rhedeg mas i'r cae lle oedd y blodau porffor.
"O'n i'n gobeithio bydde fe wedi mynd ychydig bach yn agosach at y blodau porffor sydd yn y llun ond glywodd e'r lens yn clicio ar y camera cyn diflannu."
"Roedd dal Glas y Dorlan hefyd yn chance shot, weles i ddim mo hwnna yn hedfan heibio fi. Nes i jest gweld y lliw a meddwl plis glania yn fan hyn yn rhywle a nath e! Wnes i addasu y ffocws, tynnu'r llun a wedyn oedd e wedi mynd."
Beth nesaf?
Fel un sydd wedi darganfod diddordeb newydd dros y blynyddoedd diwethaf, beth sydd nesaf i Gildas fel ffotograffydd?
"Mae'r ymateb a'r anogaeth dwi wedi ei gael ar y cyfryngau cymdeithasol a fy nghyfrif Instagram @gildasgriffithsphotography wedi rhoi gymaint o hwb i fi, cafodd ambell lun ar Cymuned Llên Natur gymaint o hits, y cam nesaf yw cael lluniau i ymddangos ar y gyfres Springwatch."
Hefyd o ddiddordeb: