Gêm gyfartal rhwng Durham a Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Chris Cooke, GlamorganFfynhonnell y llun, Rex Features

134 rhediad gan Chris Cooke yn ystod ail fatiad Morgannwg wnaeth sicrhau gêm gyfartal ar ddiwrnod olaf y chwarae yn erbyn Durham.

Gorffennodd Durham y trydydd diwrnod mewn rheolaeth, ac ar y blaen o 81 rhediad gyda Bas de Leede yn taro 85 rhediad - sef y gorau yn ei yrfa.

Roedd rhaid i Forgannwg ddechrau ar 159-4 ar y diwrnod olaf, i geisio dal cyfanswm Durham o 630 rhediad.

Ond daeth Morgannwg yn ôl, gyda help Andrew Salter (48), Tim van der Gugten (54) a Cooke i hawlio gêm gyfartal.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn drydydd yn ail haen Pencampwriaeth y Siroedd, a bydd y ffocws bellach yn troi at y daith i Gaerwysg yn y gystadleuaeth 20 pelawd nos Wener.

Pynciau cysylltiedig