Y Peiriant Amser gan Ruby - stori fuddugol Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Ruby o Ysgol y Wern, Caerdydd yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.
Daeth Ruby yn fuddugol yng nghategori Cyfnod Allwedol 2b, i blant rhwng 9-11 oed am ei stori dan y teitl 'Y Peiriant Amser'. Yr awdures Awen Schiavone oedd y beirniad ac fel gwobr i Ruby, yr artist Elin Manon sydd wedi darlunio llun clawr i'w stori. Mwynhewch stori Ruby.
Y Peiriant Amser
Tad-cu Gwyndaf
Bob dydd Sadwrn, ers yn wyth oed, rwyf yn gyfarwydd ag eistedd yn y lolfa ar bwys Tad-cu Gwyndaf a chael stori. Dyma uchafbwynt fy wythnosau!
Ein 'peiriant amser' ni oedd hen albwm lluniau Tad-cu ac roedd stori gyffrous ganddo am bob llun oedd ynddo. Hen albwm trwchus ydoedd yn llawn lluniau du a gwyn yn bennaf o Dad-cu pan oedd yn blentyn. Mae Tad-cu yn hen iawn ac yn ei nawdegau canol, a'r albwm yw'r peiriant amser gorau a fu erioed!
Y dydd Sadwrn hwnnw, wedi i mi gau fy llygaid a chyfri am ychydig, roedd Tad-cu o'r diwedd wedi dewis llun arbennig iawn ar gyfer ein hantur 'peiriant amser'.
Cyfeillgarwch Tad-cu Gwyndaf a'r efaciwî
Clywais lais dwfn ond meddal Tad-cu yn atseinio yn fy nghlustiau ac edrychais yn gariadus ar ei wyneb mawr rhychiog ac edrychai yn fregus fel papur mewn dŵr. Gan bwyntio at y llun dywedodd yn llawn atgofion melys:
"Dyma fi a'r efaciwî, Michael, oedd yn ddeg oed, yn chwarae ar y lawnt o flaen ein cartref, Tŷ Carreg, yn Llandudoch, Aberteifi. Roedd Mam yn golchi'r llestri wrth y ffenest ac yn edrych arnom ni gyda llygaid barcud yn chwarae a chwerthin a chlebran.
"Roeddwn i'n dysgu Cymraeg iddo ef, ac i ddweud y gwir, roedd ef yn dysgu Saesneg i fi. Siaradai Michael yn aml am ei brofiad ef o fod yn efaciwî o Lundain. Roedd e'n siarad Saesneg fel pwll y môr ar y dechrau a'r cyfan allwn i ei wneud oedd gwenu'n garedig ac esgus deall pob gair roedd e'n ei ddweud. Roeddwn i'n deall eithaf tipyn ond siarad Saesneg gydag efo oedd fy mhroblem i."
"Tad-cu," meddais, ar bigau'r drain i wybod mwy, "Beth oedd e'n dweud wrthot ti?"
"A! Roedd e'n sôn am lawer o bethau, sut oedd e'n teimlo am golli ei deulu, y profiad o ddod i wlad estron a beth edd yn ei gês! Dywedodd taw dim ond un par o ddillad isaf oedd ganddo, ac un wisg sbâr, pa bynnag hir fyddai'r rhyfel. Ond roedd gan Michael yo-yo a bag o farblys lliwgar hefyd, ac roedden nhw'n ein diddanu ni am oriau!
Ffarwelio gyda Michael
"Daethom yn ffrindiau da iawn. Yn anffodus, un diwrnod, roedd yn rhaid i fi ffarwelio gyda Michael oherwydd bod fy nheulu'n symud tŷ y diwrnod canlynol ac roeddwn am esbonio iddo na allwn ei weld eto."
"O, trist Tad-cu,' meddais, bron â ffrwydro gyda thristwch.
"Atgoffodd fy Mam i, Caroline, pan oeddwn yn hynach, beth ddywedais nesaf. Yn araf bach, ac mewn acen Saesneg go ryfedd, meddais, 'We are .... we are.... we are .... shaking from here tomorrow!"
Dechreuodd Tad-cu chwerthin ar ei eiriau ei hun nes i mi ddechrau bola chwerthin hefyd. Dyna oedd sŵn aflafar!
"O diar!" chwarddais. "Tybed beth oedd yr efaciwî'n meddwl? Dylet ti fod wedi nôl geiriadur i weld beth oedd 'symud' yn Saesneg!"
Diolch i'r peiriant amser cefais daith aruthrol nôl i'r pedwardegau! O, dwi'n caru dyddiau Sadwrn.
Gyda llaw, mae'r "we are" yn wir! Dyna ddywedodd fy Nhad-cu.
Hefyd o ddiddordeb: