Y Peiriant Amser gan Catrin - stori fuddugol Radio Cymru
- Cyhoeddwyd

Y Peiriant Amser gan Catrin
Catrin o Ysgol Goronwy Owen, Benllech yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.
Daeth Catrin yn fuddugol yn y categori i blant rhwng 5-7 mlwydd oed am ei stori dan y teitl 'Y Peiriant Amser'. Yr awdures Awen Schiavone oedd y beirniad ac fel gwobr i Catrin, yr artist Efa Blosse-Mason sydd wedi darlunio llun clawr i'w stori. Mwynhewch stori Catrin.

Y Peiriant Amser

Pennod 1: Anghofio'r tegan
Un diwrnod cyrhaeddodd Catrin adra o Lundain. Roedd wedi bod ar ei gwyliau gyda Mam a Dad.
"O, na!" meddai Catrin. "Rydw i wedi anghofio fy nhegan i yn y gwesty. "Mam, Mam, dwi wedi anghofio fy nhegan i yn y gwesty!"
"Mi awn ni at Jac drws nesaf i ofyn ffafr."
Y ffafr oedd cael benthyg peiriant amser o'r garej.
"Helô Catrin, gawsoch chi amser da yn Llundain?"
"Do, ond dwi'n drist."
"Pam wyt ti'n drist?"
"Rydw i wedi anghofio fy nhegan i yn y gwesty."
"Dim problem," meddai Jac. "Mae gen i beiriant amser! Rŵan, pwysa'r botwm gyda'r saeth yn pwyntio'n ôl a byddi di yn Llundain."
Pennod 2: Catrin yn Llundain
Waw! Dwi yn y gwesty yn Llundain! Fy nhegan! O, dwi wedi colli ti!
Hmmm, dwi'n mynd o gwmpas mwy o siopau. Yn gyntaf dwi'n mynd i Build a Bear, ac yna i brynu'r ffrogiau crandiaf ac esgidiau del.
Ac yn olaf, i brynu llyfr cyfrinachol.
Fe es ar y bws decer dwbwl heibio cloc Big Ben. Wedyn mi es i gael pitsa yn y caffi a phanad o de cyn gwely yn y gwesty.
Y diwrnod wedyn roeddwn mor gyffrous gan i mi wneud ffrindiau newydd i fynd o gwmpas Llundain a'u henwau oedd Alys, Moli, Lotti a Lily. Mi gaethon ni gymaint o hwyl, mi wnaethon ni golli trac ar amsar.
Pennod 3: Dychwelyd adref
Ar ddiwadd y dydd pwysodd Jac y botwm i fynd yn ôl mewn amsar.
"Mam, dyma fy ffrindiau newydd; Moli, Alys, Lotti a Lily! Gawn ni ein pump fynd i chwarae i fyny'r grisiau?"
Chwaraeon ni efo'r barbies, y doliau a fy nhegan fu ar goll yn Llundain trwy'r dydd.