Rhan o'r A40 yn y gorllewin ar gau trwy'r penwythnos

  • Cyhoeddwyd
A40
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gwaith dros y penwythnos yn uno'r ffordd newydd â'r A40 bresennol

Bydd rhan o un o ffyrdd prysuraf gorllewin Cymru yn cau dros y penwythnos er mwyn cwblhau gwaith adeiladu hanfodol i greu ffordd osgoi newydd i bentref Llanddewi Felffre.

Bydd y gwaith yn digwydd ar yr A40 yng Nghoedwig Ffynnon, sydd i'r gorllewin o Landdewi Felffre.

Fe fydd y ffordd yn cau rhwng 20:00 nos Wener a 06:00 fore Llun.

Yn ôl Rhodri Gibson, asiant Llywodraeth Cymru ar y prosiect, does yna ddim opsiwn arall ond cau y ffordd.

"Mae'r bwlch mewn lefel rhwng y ffordd bresennol a'r ffordd newydd yn eitha' sylweddol - mae'n ddau fetr a hanner.

"Dyw hi ddim yn ymarferol i ni wneud y gwaith gyda thraffig yn rhedeg ar ein pwys ni. Mi fyddwn ni yn gallu gwneud y gwaith mewn un penwythnos."

Disgrifiad o’r llun,

"Dyw hi ddim yn ymarferol i ni wneud y gwaith gyda thraffig yn rhedeg ar ein pwys ni," medd Rhodri Gibson

Bydd teithwyr sy'n mynd o gyfeiriad Caerfyrddin tua'r gorllewin i Hwlffordd a Thyddewi, yn gorfod defnyddio'r A477 cyn medru ailymuno â'r A40 ar ôl y gwaith adeiladu.

Mae gyrwyr yn cael eu hannog i ddilyn arwyddion i ddargyfeirio traffig, a bydd gweithwyr ar gylchfannau Hendy-gwyn ar Daf a Phenblewin i gynorthwyo gyrwyr.

Fe fydd llwybr arbennig yn cael ei gadw ar agor ar gyfer cerbydau brys.

Bydd disgwyl i gerbydau trwm ddefnyddio ffyrdd yr A4076 a'r A477.

Mae'r cynllun i greu gwelliannau rhwng Llanddewi Felffre a Chroesffordd Maen-coch yn costio £60m, gyda £36m yn dod o goffrau'r Undeb Ewropeaidd.

Y cynllun mewn rhifau

  • Dwy gylchfan a dwy gyffordd newydd;

  • 6km o briffordd newydd;

  • Dwy bont newydd, 18 cwlfer (culvert) newydd ac ymestyn tri o'r cwlferi presennol;

  • 5.5km o gyfleusterau a rennir ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth ceffylau;

  • Naw pwll draenio cynaliadwy;

  • 14.5km o ddraeniad priffyrdd a phibellau cysylltiedig;

  • 16km o ffensys ecolegol.

Pynciau cysylltiedig