Arestio gyrrwr bws wedi marwolaeth beiciwr modur 48 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ol i feiciwr modur farw mewn gwrthdrawiad gyda bws.
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:50 ddydd Sadwrn ar Heol Caerdydd yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn 48 oed o Aberpennar wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae dyn 51 oed a oedd yn gyrru'r bws wedi cael ei arestio a'i rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Mae'r llu'n apelio am unrhyw wybodaeth neu luniau dashcam all helpu'r ymchwiliad.