Pump yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf fore Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Mynydd y Rhigos ger Hirwaun yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod pump wedi eu hanafu, gydag un o bosib wedi cael anafiadau newid bywyd.
Cafodd pedwar o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ac un i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Ychwanegodd yr heddlu bod dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o yfed dan ddylanwad alcohol a gyrru heb ofal.
Mae disgwyl y bydd y ffordd ynghau am beth amser.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.