Russell Martin yn gadael Abertawe i reoli Southampton
- Cyhoeddwyd

Mae Russell Martin (chwith) wedi ei gadarnhau fel rheolwr newydd Southampton, a gobaith yr Elyrch yw penodi Michael Duff (dde) yn ei le
Mae clwb pêl-droed Abertawe yn gobeithio penodi Michael Duff o Barnsley fel eu rheolwr newydd yn dilyn cadarnhad fod Russell Martin yn gadael am Southampton.
Cytunodd Martin i ddod yn rheolwr y Saints ym mis Mai, ond roedd oedi ar ei benodi yn sgil anghydfod am yr iawndal oedd yn ddyledus i'r Elyrch.
Yn gadael Abertawe wedi dwy flynedd wrth y llyw bydd Martin, 37, yn wynebu'r her o ailadeiladu Southampton yn dilyn eu cwymp o Uwch Gynghrair Lloegr y tymor hwn.
Yn y cyfamser mae Abertawe yn gobeithio penodi Duff i gymryd ei le.
Yn gyn-amddiffynnwr rhyngwladol gyda Gogledd Iwerddon, mae'r Elyrch yn gobeithio y bydd Duff, 45, yn ei le ar gyfer dechrau paratoadau Abertawe ar gyfer y tymor newydd.
Ond bydd yn rhaid i Abertawe dalu iawndal i sicrhau ei wasanaeth, gyda'r chwaraewyr i fod i ddychwelyd i ymarfer ddydd Gwener.
Cymerodd Duff yr awenau yn Barnsley ar gytundeb tair blynedd ym Mehefin y llynedd, gan arwain y Tykes i rownd derfynol gemau ail gyfle Adran Un yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.