Eryri: Dringwr wedi marw ar ôl i graig ddod yn rhydd

  • Cyhoeddwyd
Dyn yn cael ei achubFfynhonnell y llun, Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jack Carney yn dringo ar Glyder Fawr gyda dau o'i ffrindiau pan syrthiodd

Mae cwest wedi clywed y bu farw dyn 23 oed ar ôl syrthio tra'n dringo ar Glyder Fawr yn Eryri, wedi i ddarn o'r graig afaelodd ynddi ddod hyn rhydd.

Roedd Jack Carney o Sir Efrog ar Y Gribin ar 4 Chwefror eleni pan ddaeth y graig yn rhydd, ac fe gwympodd 200 troedfedd.

Clywodd cwest yn Rhuthun iddo ddioddef nifer o anafiadau.

Fe wnaeth dau o ffrindiau Mr Carney - Matthew Belcher a Brandon Smith - alw'r tîm achub mynydd, ond bu'n rhaid aros pedair awr tan i'r tîm ddod o hyd iddynt.

Codi £15,000 i'r tîm achub mynydd

Clywodd y cwest fod ganddynt yr offer cywir a'u bod wedi archwilio'r llwybr a chadw golwg ar y tywydd cyn cychwyn.

Ers y digwyddiad mae Mr Belcher, Mr Smith a ffrindiau eraill wedi casglu dros £15,000 i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen er cof am Mr Carney.

Dywedodd y crwner John Gittins fod Mr Carney wedi paratoi yn drylwyr a'i fod yn brofiadol, a'i bod yn bosib fod dŵr wedi achosi erydiad y graig cyn iddo ddod yn rhydd.

Cofnodwyd canlyniad o farwolaeth ddamweiniol.