Ffos-y-Fran: Apelio gorchymyn i ddod â gwaith cloddio i ben

  • Cyhoeddwyd
Safle glo-brig Ffos-y-Fran o'r awyrFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r caniatâd cynllunio ar safle Ffos-y-Fran wedi dod i ben ers mis Medi 2022

Mae safle glo brig mwyaf y DU wedi lansio apêl funud olaf yn erbyn gorchymyn i ddod â'r gwaith cloddio i ben.

Roedd hysbysiad gorfodi yn erbyn datblygwr glofa Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful i fod i ddod i rym ddydd Mawrth.

Byddai wedi rhoi 28 diwrnod i'r cwmni stopio cloddio, gyda'r caniatâd cynllunio ar y safle wedi dod i ben ers mis Medi 2022.

Ond mae bellach yn codi'r posibilrwydd o chwe mis arall neu fwy o gloddio ar y safle.

Dywedodd Llywodraeth Cymru - sydd am weld "diwedd wedi'i reoli ar echdynnu a'r defnydd o lo" - fore Mercher eu bod ar ddeall fod y cwmni'n apelio.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y llywodraeth na allan nhw wneud sylw pellach gan y gall "beryglu unrhyw benderfyniad y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru ei wneud ar y mater yn y dyfodol".

Cadarnhaodd cwmni mwyngloddio Merthyr (South Wales) Ltd wrth BBC Cymru fod apêl "wedi'i chyflwyno i Weinidogion Cymru" ond na allan nhw wneud sylw pellach tra bod y broses apêl yn parhau.

Ffynhonnell y llun, Matt Cardy/Getty Images

Mae canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru yn awgrymu unwaith y bydd apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi wedi'i chyflwyno y byddai penderfyniad fel arfer yn cael ei dderbyn "o fewn 27 wythnos ond gall gymryd mwy o amser".

Mae'n codi'r posibilrwydd o chwe mis arall neu fwy o gloddio ar y safle.

Ar ôl 15 mlynedd, daeth caniatâd cynllunio i gloddio yn Ffos-y-Fran i ben ar 6 Medi 2022 ond ddyddiau yn unig cyn hynny fe ofynnodd y cwmni am fwy o amser.

Fe gymerodd tan Ebrill 2023 i'r cais gael ei drafod, a'i wrthod, gan bwyllgor cynllunio Cyngor Merthyr Tudful.

Parhaodd y mwyngloddio ar y safle yn y cyfamser - gyda ffigyrau'n awgrymu bod 199,307 tunnell o lo wedi'i gloddio rhwng 7 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cryn brotestio wedi bod yn erbyn y gwaith cloddio yn y gorffennol

Mae cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran y grŵp ymgyrchu Coal Action Network wedi dweud bod y sefyllfa'n gosod "cynsail ofnadwy" ac yn dwyn "anfri" ar y system gynllunio.

Maen nhw wedi cyhuddo'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru o "gamweinyddu" - gan ddadlau eu bod nhw o bosib wedi gweithredu'n anghyfreithlon wrth fethu ag ymdrin â'r mater ar fwy o frys.

Mae Merthyr (South Wales) Ltd wedi dweud yn y gorffennol eu bod mewn trafodaethau gyda'r awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn "rhoi'r gorau i gloddio'n ddiogel" yn Ffos-y-Fran.

Mae Cyngor Merthyr Tudful hefyd wedi cael cais i ymateb, ond dywedodd y cyngor ddydd Mawrth fod ganddynt "farn gyfreithiol groes" i farn cyfreithwyr yr ymgyrchwyr.