Ffos-y-Fran: Parhau i gloddio glo yn 'gynsail ofnadwy'
- Cyhoeddwyd

Roedd y drwydded i gloddio ar y safle i fod i ddod i ben ym mis Medi 2022
Mae caniatáu i lofa anferth barhau i weithredu am fisoedd heb ganiatâd cynllunio yn gosod "cynsail ofnadwy", ac o bosib yn mynd yn groes i'r gyfraith, yn ôl uwch gyfreithwyr.
Mae disgwyl i hysbysiad gweithredu ddod i rym ddydd Mawrth gan roi rhybudd 28 diwrnod i lofa Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful ddod â'r gwaith cloddio am lo i ben.
Dadlau mae bargyfreithwyr ar ran ymgyrchwyr newid hinsawdd y gallai'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru fod wedi ymyrryd yn gynt.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw am weld "diwedd wedi'i reoli ar echdynnu a'r defnydd o lo".

Safle glo-brig Ffos-y-Fran o'r awyr
Ffos-y-Fran yw safle glo brig mwya'r DU - ac erbyn hyn yr olaf hefyd. Mae ganddo hanes hir a dadleuol gyda'r broses o'i gau bellach yn troi'n dipyn o saga.
Mae gan y cwmni sy'n gyfrifol am y safle tan ddiwedd mis Gorffennaf i gydymffurfio â gorchymyn y cyngor lleol i ddod â stop i'r cloddio, wedi i'w cais am fwy o amser gael ei wrthod ym mis Ebrill.
Mae'n golygu y bydd y lofa - sydd mor fawr â thua 400 cae pêl-droed - wedi medru parhau i weithredu am o leiaf 10 mis y tu hwnt i ddiwedd ei ganiatâd cynllunio ym mis Medi 2022.
Mae ffigyrau yn dangos i 199,307 o dunnelli o lo gael eu hechdynnu o'r safle yn ystod chwe mis cynta'r cyfnod yma - rhwng 7 Medi 2022 a 31 Mawrth 2023.
Mewn llythyr agored o gyngor cyfreithiol, mae bargyfreithwyr sy'n gweithio gyda'r grŵp ymgyrchu Coal Action Network yn dweud bod y sefyllfa wedi "dwyn anfri" ar y system gynllunio.
"Mae'n bendant yn anfon neges i ddatblygwyr eraill sy'n ystyried cau eu glofa neu eu ffynnon olew i gwestiynu a oes angen iddyn nhw," eglurodd Matthew McFeeley o gwmni cyfraith amgylcheddol Richard Buxton Solicitors.
"Fe allen nhw echdynnu am gyfnod go hir heb ganiatâd cynllunio."
Mae'r farn gyfreithiol yn cyhuddo'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru o "gamweinyddu" - gan ddadlau ei bod wedi gweithredu yn groes i'r gyfraith drwy beidio ag ymateb yn gynt.

Mae Chris Austin yn byw'n lleol a dywed bod y sefyllfa yn "hynod rwystredig"
Mae rhai trigolion lleol ac ymgyrchwyr wedi bod yn protestio ers misoedd, gan anfon lluniau a fideos o gloddio honedig ar y safle.
Dywedodd Chris Austin, 67, sy'n byw yn ymyl y safle bod y cyfan wedi bod yn "hynod rwystredig".
"Gallai'r awdurdod lleol fod wedi ymateb yn syth ond mae nhw wedi oedi ar y mater yma," meddai.
Yn ôl Dr Neil Harris, Uwch Ddarlithydd mewn Cynllunio Statudol ym Mhrifysgol Caerdydd mae'r ffaith i'r cyngor dderbyn cais i ymestyn cyfnod y cloddio ddyddiau cyn i'r caniatâd cynllunio ddod i ben yn "allweddol" o ran egluro'r "broses estynedig" ers hynny.
Tra bod modd disgrifio ymateb y cyngor fel un "ychydig bach yn ofalus", roedd hyn am eu bod yn ceisio cael y penderfyniad yn gywir mewn "achos hynod gymhleth" a lleihau'r risg o wynebu her gyfreithiol, awgrymodd.

Mae cryn brotestio wedi bod yn erbyn y gwaith cloddio yn y gorffennol
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y lofa - Merthyr (South Wales) Ltd - wedi dweud yn y gorffennol eu bod wrthi'n trafod gyda'r awdurdod lleol ynglŷn â sicrhau "diwedd diogel i'r gwaith cloddio" ac adfer y safle.
Mae'r gwaith yn cyflogi oddeutu 180 o bobl, ac yn cyflenwi'r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot a rheilffyrdd stêm y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful bod ganddyn nhw farn gyfreithiol wahanol am y sefyllfa ac nad yw'n briodol iddynt wneud sylw pellach yng ngoleuni achos cyfreithiol posib.
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein safbwynt ni yn glir - ry'n ni am sicrhau diwedd wedi'i reoli i echdynnu a'r defnydd o lo."Ry'n ni yng nghanol argyfwng hinsawdd a natur ac mae'n rhaid i'n hymateb ni fod yn gyflym ac o ddifri' fel ein bod ni'n gallu pasio Cymru yr ydym yn falch ohoni ymlaen i genedlaethau'r dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2023