Strydoedd Efrog Newydd drwy lygaid Cymro
- Cyhoeddwyd
"Mae'r ddinas mor fawr.... Mae sgêl y lle yn briliant felly mae'n anodd peidio cael dy ysbrydoli."
Mewn taith ddiweddar i arddangos ei waith yn Efrog Newydd cafodd y ffotograffydd Carwyn Rhys Jones o Landwrog ger Caernarfon gyfle i grwydro strydoedd y ddinas gyda'i gamera.
Ymwelodd Carwyn Amgueddfa Slate Valley Museum yn Granville i ddangos lluniau ei brosiect Chwarelwyr gan godi hanes cysylltiadau chwareli llechi Cymru a'r Unol Daleithiau.
Wedi iddo fynd a'i ddelweddau o Gymry i Efrog Newydd mae'r ffotograffydd wedi dychwelyd adref wedi ei ysbrydoli gan ddarluniau o fywyd pob dydd yn yr Afal Mawr.
Cymru Fyw sydd wedi cael golwg ar y lluniau a holi Carwyn am y profiad.
Do'n i erioed wedi bod yn Efrog Newydd. Pan ti'n mynd trwy'r ddinas mae'r golau mor dda rhwng y blociau o adeiladau.
Roedd gen ti olau yn dod drwodd felly be o'n i yn gwneud oedd gweld pobl yn cerdded ar y stryd a gweld y golau yn eu taro nhw.
Be sydd yn cŵl am Efrog Newydd ydi ei fod o yn llawn diwylliannau gwahanol. Ti yn mynd i gael lluniau grêt.
Mae gwneud street photography yn well mewn dinas fel Efrog Newydd. Ti ddim yn poeni achos ti ddim yn nabod neb.
Mae gen ti'r rhyddid 'na i dynnu lluniau heb iddo fo fod yn amlwg.
Efo cymaint o bobl o gefndiroedd gwahanol mae o yn mynd i fod yn le briliant i ffotograffydd.
Mae'r ddinas mor fawr. Mae sgêl y lle yn briliant felly mae'n anodd peidio cael dy ysbrydoli gan y lle.
Mae Times Square yn esiampl dda, mae o fatha syrcas trwy'r adeg ac roedd y gwahanol fathau o bobl oeddat ti yn weld yn fan'na yn ddiddorol iawn.
Roedd o'n ddifyr gweld sut mae New Yorkers yn byw eu bywydau pob dydd. Ti yn clywed amdanyn nhw yn gallu bod yn 'chydig yn sych a non-stop.
Mae gen i luniau o bobl yn Wall Street a does ganddyn nhw ddim amser i neb - maen nhw yn sbio trwy pawb.
Dwi wrth fy modd yn dal stori pobl mewn llun ac os fyswn i efo amser fyswn i wrth fy modd yn mynd allan yna i wneud prosiect go iawn a chyfweld pobl am eu straeon nhw.
Efo street phoptography dydi pobl ddim fel arfar yn gwybod bo' chdi yn tynnu lluniau felly mae'n naturiol. Nes i jest mynd rownd llwyth o strydoedd am oriau a gweld be o'n i'n gallu cael.
Ges i gymaint o groeso pan es i i'r arddangosfa. Roedden nhw wedi gwneud lobsgows a chacenni cri ac roedd 'na fflagiau Cymru yn bob man. Roedd o yn anhygoel.
Roedd 'na foi oedd yn rheolwr ar y lle sy'n dod o Flaenau Ffestiniog, dwi'n mêts hefo fo rŵan. Fo oedd yn rhedeg y chwarel yna, mae hynna yn stori ynddo'i hun.
Hefyd o ddiddordeb: