Straeon pum chwarelwr i'w hadrodd yn Efrog Newydd
- Cyhoeddwyd
Rhwng 1845 ac 1851 mudodd bron i 1,500 o drigolion o Fethesda a Llanberis i weithio mewn chwareli llechi yn nhalaith Vermont yn yr Unol Daleithiau.
Tyfodd cymunedau llechi mawr yn nhalaith gyfagos Efrog Newydd o gwmpas trefi Granville a Fair Haven, neu'r 'Slate Valley' fel mae'n cael ei adnabod.
Ffynnodd y diwydiant llechi mewn taleithiau eraill hefyd gan gynnwys Pennsylvania, Ohio, Philadelphia, Maryland a Virginia ac o ganlyniad mae enwau, capeli a chymdeithasau Cymraeg yn bodoli yno hyd heddiw.
Rŵan, diolch i'r ffotograffydd Carwyn Rhys Jones, bydd chwarelwyr Cymreig i'w gweld yn America unwaith eto.
John, Dic, Jon Jo, Robin, Carwyn
Mewn arddangosfa yn y Slate Valley Museum yn Granville, Efrog Newydd blwyddyn nesaf bydd atgofion John Pen Bryn, Dic Llanberis, Jon Jo, Robin Band a Carwyn - pum chwarelwr o genhedlaeth olaf chwareli gogledd Cymru, yn cael eu hadrodd.
"Roedd y prosiect yn edrych ar sut wnaeth chwareli gogledd Cymru newid siâp tirwedd Cymru," meddai Carwyn Rhys Jones o Landwrog, ger Caernarfon.
"Wedyn nes i feddwl - does 'na ddim chwarel heb y bobl. Felly nes i gyfweld â pum chwarelwr gwahanol ac adrodd eu straeon nhw."
Cychwynnodd taith 'Chwarelwyr' yn Amgueddfa Lechi Llanberis ac mae'n cynnwys rhaglen ddogfen a phortread double exposure (dau lun mewn un) lle "mae eu straeon nhw o fewn y llun."
Dyma flas arni:
"Nes i gyfarfod â John Pen Bryn yn Nhalysarn y tu allan i Gaernarfon. Roedd y chwarel hon mor fawr fel ei fod yn cynnwys pentra' cyfan, a John wedi ei fagu yno.
"Dangosodd fi o gwmpas y chwarel a lle'r oedd y pentref yn arfer bod - anodd oedd dychmygu rŵan ei fod unwaith yn lle prysur gyda thair siop. Roedd John yn llawn straeon ac yn gwybod bob dim oedd wedi digwydd yn ei chwarel dros y blynyddoedd.
"Roedd gan Dic brofiad blynyddoedd a chymaint o wybodaeth am hanes Chwarel y Dinorwig.
"Gweithiodd yn chwarel Llanberis hyd yn oed ar ôl iddo gau i lawr ym 1969, er mwyn helpu i glirio'r llechi oedd yn weddill.
"Daw Carwyn o deulu chwarela mawr. Roedd rhai ohonynt wedi gweithio yn yr Ysbyty'r Chwarelwyr yn Llanberis. Gellir dod o hyd i nifer o lofnodion ei hynafiaid yn llyfrau amgueddfa'r Ysbyty Chwarel, yn cofnodi gweithdrefnau llawfeddygol.
"Andrew yw'r olaf o chwe chenhedlaeth o chwarelwyr yn ei deulu a oedd i gyd wedi gweithio mewn dwy chwarel: Dinorwig a Phenrhyn.
"Fel y gallech ddychmygu, wnaeth o siarad yn deimladwy am y ffordd y ganwyd i mewn i'r diwydiant.
"Daw Robin Band o chwarel Trefor. Roedd yn adnabyddus yn lleol fel Robin Band oherwydd bod y rhan fwyaf o'i deulu mewn bandiau.
"Bu'n gweithio yn chwarel ithfaen Trefor am rai blynyddoedd, a rhannodd atgofion gwych am yr amseroedd da, drwg a doniol yno.
'Rhan o'n treftadaeth'
"Yn amlwg, dw'i mor hapus," meddai Carwyn. "Mae'r stori wedi dechrau yn Llanberis, 'di mynd trwy Gymru i gyd ac mae o rwan yn cyrraedd Efrog Newydd.
"Mae pawb wedi clywed am hanes y Gwyddelod yn mynd drosodd i Efrog Newydd ond ti ddim yn clywed llwyth o hanes pobl Cymraeg. Mae'n hanes ges i ddim fy nysgu amdano fo yn yr ysgol. Mae o yn ofnadwy o ddiddorol."
Mae Carwyn yn falch ei fod yn helpu i gadw'r darn bach yma o hanes Cymru ac America yn dal yn fyw a hynny drwy lygaid chwarelwyr yr oes yma. Ond er iddo gyfweld pump yn wreiddiol, mae Dic Llanber a Robin Band eisoes wedi marw sy'n dangos pwysigrwydd cofnodi'r profiadau, meddai'r ffotograffydd.
"Mae o yn bwysig dogfennu'r hanes - mae dau wedi marw. Mae hynna yn dangos i chdi fod o yn bwysig dogfennu pethau fel hyn," meddai Carwyn.
"Mae o yn rhan o'n treftadaeth ni. Mae o yn ddiwydiant sydd angen ei ddogfennu."
Hefyd o ddiddordeb: