Dedfrydu dyn o Sir Gâr am ffugio lladrad car rali

  • Cyhoeddwyd
Llyr Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llyr Jones ddedfryd o garchar gohiriedig o 16 mis yn Llys y Goron Abertawe

Mae dyn o Sir Gâr a ffugiodd fod ei gar rali gwerth £49,000 wedi ei ddwyn wedi cael ei ddedfrydu.

Cafodd Llyr Jones, 34 oed o Drefach Felindre, ddedfryd o 16 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, gorchymyn i wneud 200 awr o wasanaeth cymunedol a bydd yn rhaid iddo dalu costau cyfreithiol.

Roedd Jones eisoes wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys Ynadon Llanelli ym mis Mai.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Jones wedi honni fod ei Ford Escort MK2 wedi ei ddwyn o'i gartref rhwng 7 a 15 Hydref 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Llyr Jones wedi honni fod ei Ford Escort MK2 wedi ei ddwyn o'i gartref

Ar y pryd apeliodd Heddlu Dyfed-Powys am wybodaeth am y car.

Fe wnaeth y diffynnydd hefyd gyfweliad â Newyddion S4C gan ddweud fod y sefyllfa yn "dorcalonnus" ac yn "golled enfawr".

Dywedodd fod y car wedi ei ddarganfod mewn coedwig yn ardal Castell Newydd Emlyn, a bod nifer o rannau o'r cerbyd wedi diflannu.

Disgrifiad,

Fe wnaeth Jones gyfweliad â Newyddion S4C ar y pryd gan ddweud fod y sefyllfa yn "dorcalonnus"

Clywodd y llys bod Jones wedi rhoi neges ar Facebook ar 7 Hydref i ddweud bod ei gar ralio wedi cael ei ddwyn o'i garej oedd dan glo.

Yn y dyddiau cyn y lladrad honedig, roedd wedi trefnu bod rhai cydrannau yn cael eu tynnu o'r car gan bobl roedd yn eu hadnabod, oedd ddim yn ymwybodol o'r twyll.

Cysylltodd gyda Heddlu Dyfed-Powys y diwrnod canlynol i ddweud bod rhywun wedi mynd â'r cerbyd.

Ar 9 Hydref, dywedodd ei fod wedi derbyn neges gan ddyn anhysbys i ddweud bod y car wedi cael ei adael mewn coedwig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jones fod y car wedi ei ddarganfod mewn coedwig yn ardal Castell Newydd Emlyn, a bod nifer o rannau o'r cerbyd wedi diflannu

Y diwrnod wedyn, roedd Mr Jones wedi cysylltu gyda'i gwmni yswiriant, Zenith, gan ddweud fod y car wedi'i ddwyn.

Ond yn ddiweddarach fe gysylltodd ffrind i Mr Jones gyda'r heddlu i ddweud ei fod yn amau bod y diffynnydd wedi cyflwyno twyll.

Fe arestiwyd Jones ar 28 Hydref. Yn wreiddiol fe wadodd y drosedd, cyn cyfaddef yn ddiweddarach pan gyflwynwyd mwy o dystiolaeth iddo.

Dywedodd wrth yr heddlu ar y pryd ei fod wedi bwriadu lladd ei hun, ac mai ei obaith oedd hawlio'r arian yswiriant i'w fam cyn iddo farw.

'Cynllun gwirion'

Dywedodd bargyfreithiwraig Jones, Georgia Donahue, ei fod wedi cael llawer o broblemau iechyd meddwl a bod ei fab ifanc wedi cael ei eni gyda phroblemau gyda'r galon.

Mae nawr yn derbyn therapi ac yn cyfaddef ei fod wedi creu "cynllun gwirion" pan oedd dan straen, meddai.

Wrth ddedfrydu Jones, dywedodd y Barnwr Geraint Walters bod yr hyn a wnaeth "wedi ei gynllunio yn ofalus" ond bod yr adroddiad prawf yn dangos ei fod yn dioddef o "anhwylder iechyd meddwl i'r graddau eich bod chi wedi meddwl cymryd eich bywyd eich hun, yn sgil sawl ffactor, gan gynnwys cyflwr bregus eich mab".

Dywedodd fod yr adroddiad yn nodi bod y diffynnydd wedi creu cynllun i ladd ei hun drwy yfed wisgi ger bedd ei dad-cu cyn boddi ei hun.

Ar ôl yr achos dedfrydu ddydd Mawrth dywedodd Jones wrth BBC Cymru ei fod yn difaru ac yn ymddiheuro am y twyll, ond nad oedd mewn "lle neis iawn yn feddyliol" pan ddigwyddodd y drosedd.