Ateb y Galw: Becky Davies
- Cyhoeddwyd
Becky Davies o Bontypridd sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ol iddi gael ei henwebu gan Osian Meilir.
Yn wreiddiol o Hen Ynysybwl mae Becky yn Ymarferydd Creadigol cwiar a niwrowahanol gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn y diwydiannau creadigol.
Mae ganddi brofiad helaeth mewn dylunio setiau a gwisgoedd ar gyfer y celfyddydau perfformio ac mae hi'n gweithio'n llawrydd fel artist a darlunydd, Artist Cyswllt ar gyfer Cwmni Theatr Taking Flight a Cynyrchiadau Leeway, Hwylusydd Gweithdy ac Artist Cymunedol, Arbenigwr Mynediad Creadigol, ac Uwch-Darlithydd BA Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig ym Mhrifysgol De Cymru.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae gen i gof hirdymor byw iawn, felly mae fy atgof cynharaf o Fawrth-Ebrill 1991 pan oeddwn mor ifanc â 5 mlwydd oed. Mae fy rhieni yn haneswyr, sydd yn esbonio pam aethon ni ar wyliau i Rwsia tra roedd Mam yn feichiog gyda fy chwaer. Mae fy atgof o'r gwyliau yma yn dameidiog, ond dwi'n mwynhau sut mae fy atgofion yn dod at ei gilydd mewn ffordd swreal a hudolus yn fy mhen.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Coedwig Llanwynno reit wrth ymyl y tŷ lle ges i fy magu yn Hen Ynysybwl. Mae'n le hudolus lle nad oes fawr ddim signal ffôn, os o gwbl, felly gallwch ddianc bywyd modern ac ymgolli'n llwyr ym myd natur. Dyna lle byddwn i'n chwarae am oriau yn yr afonydd a'r rhaeadrau gyda fy nghi ffyddlon, Angus, pan oeddwn i'n ifanc.
Dyna hefyd lle byddwn i'n heicio gyda fy nhad a ffrindiau yn fy arddegau pan oedden ni'n rhan o Gerddwyr Cwm Clydach, gan orffen y daith gyda sglodion yng Ngwesty Brynffynon. Ers symud yn ôl i'r ardal pum mlynedd yn ôl, dwi'n mynd yno bob cyfle a gâf, weithiau i gael picnic a mynd am dro ar hyd yr afon gyda fy nghi, Ollie, neu am dro i Caban Guto, y caffi cymunedol drws nesaf i Canolfan Ddysgu Awyr Agored Daerwynno.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Aeth fy mhriod, Rhi (nhw/eu), a minnau ar ein mis mêl i Fecsico ym mis Hydref-Tachwedd 2013 er mwyn i ni allu bod yn Oaxaca mewn pryd ar gyfer Gŵyl y Meirw. Mae'n digwydd dros sawl diwrnod, ac roedd popeth a welsom mor hardd, wedi'i addurno'n gywrain, yn llawn lliw ac yn wledd go iawn i'r synhwyrau i gyd. Fe allwn i siarad amdano am byth!
Noson sy'n dal i sefyll allan i'r ddau ohonom oedd y noson olaf pan naethon ni benni lan mewn moshpit o bobl mewn gwisgoedd afradlon gyda phypedau ac ysgubau, gan wthio'r ysbrydion oedd wedi bod yn ymweld â'r ddaear yn ôl i'r nefoedd yn ddiogel. Yr oedd mor, mor llawen.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Creadigol. Ffyddlon. Caredig.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan aeth Rhi a fi ar Anti-Pub Crawl yn Berlin, fe gawson ni'r noson fwyaf anhygoel a swreal, y math o beth a welwch mewn ffilmiau. Aethom o far thema flower power o'r 1970au, i far sy'n arbenigo mewn absinthe (gan gynnwys un oedd yn 90% alcohol), a bar ogof gothig death-metal a oedd ychydig yn frawychus. Gorffennon ni'r noson mewn set DJ drum and bass wedi'n hamgylchynu gan hen setiau teledu. Doedd gennym ni ddim syniad beth i ddisgwyl pan ddechreuon ni'r noson, ond fe wnaethon ni gofleidio'r cyfan gyda llawer o chwerthin (a theimlo fel bod ni'n cerdded ar drampolîn diolch i'r absinthe hynod gryf!). Mae cofio darnau o'r noson honno bob amser yn gwneud i ni chwerthin.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Roedden ni'n arfer mynd i garafan fy Mam-gu a Tad-cu yn y Gŵyr am hanner tymor a gwyliau'r Pasg pan oedd fy chwaer a minnau'n blant. Ar ddiwrnod glawog yn y garafan, penderfynodd Mam a Dad fynd â ni i ganol dinas Abertawe gerllaw, ac un o'r llefydd y buon ni'n ymweld ag ef y diwrnod hwnnw oedd siop cardiau. Roedd ganddyn nhw beiriant newydd (a oedd yn swish iawn yn y 90au cynnar!) lle gallech chi addasu cerdyn cyfarch papur, tystysgrif ac ati, ac o fewn munudau byddai'n ei argraffu i chi.
Roedd fy nhad newydd gwblhau Her Cerdded Clawdd Offa, ac roeddwn i eisiau dangos iddo pa mor falch roeddwn i ohono trwy argraffu tystysgrif llongyfarch iddo. Doeddwn i ddim wedi deall tan gadawon ni'r ganolfan siopa, pan gyflwynais y tystysgrif yn frwd i Dad, fy mod i wedi gwneud rhywbeth o'i le. Roeddwn i'n ifanc iawn ar y pwynt yma a ddim wedi sylweddoli nad oedd y peiriant yn y siop gardiau yn argraffu tystysgrifau am ddim... roeddech chi i fod i fynd ag e i'r til i dalu amdano wrth gwrs! Roedd Mam a Dad wedi dychryn a rhuthron nhw ôl i dalu amdano tra roeddwn i'n beichio crio. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i wedi gwneud rhywbeth cynddrwg â dwyn wrth geisio gwneud rhywbeth neis i fy nhad. Er, yn rhesymegol, rwy'n gwybod mai dim ond plentyn oeddwn i, pan fyddaf yn meddwl am y peth, rydw i dal yn cael teimladau o euogrwydd ac embaras ar unwaith!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Mae fy nheulu a ffrindiau yn gwybod fy mod yn crio TRWY'R AMSER - ha! Rwyf bob amser wedi teimlo fy emosiynau'n ddwys. Dylsech chi wedi gweld cymaint roeddwn i'n crio pan ddaethon ni ag Ollie adref fel ci bach iawn, dim ond oherwydd ei fod mor brydferth - dwi'n caru anifeiliaid!
Fodd bynnag, doedd e ddim tan i mi gael diagnosis o ADHD ddwy flynedd yn ôl y sylweddolais fy mod i mor sensitif oherwydd bod gennyf symptomau nodweddiadol o ADHD o'r enw RSD (Rejection Sensitive Dysphoria). Mae gen i gyflenwad di-ddiwedd o empathi ac rydw i'n poeni llawer gormod, yn aml ar fy nhraul fy hun.
Ni fydd y rhan fwyaf o bobl rwy'n gweithio gyda yn gwybod hyn gan fy mod wedi meistroli cuddio fy symptomau niwroddargyfeiriol drwy gydol fy mywyd hyd yma i ffitio i mewn i fyd sydd, ar y cyfan, yn niwronodweddiadol. Mae pobl 'AFAB' (Assigned Female At Birth), menywod a merched yn arbennig o fedrus yn cuddio symptomau yn ôl y gwaith ymchwil! Mae'n cyflwyno'n wahanol iawn mewn menywod nag y mae mewn dynion, a dyna pam mae cymaint o fenywod fel fi yn cael diagnosis yn ddiweddarach mewn bywyd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Roeddwn i'n meddwl bod gen i SAWL arfer drwg nes i mi sylweddoli bod y rhan fwyaf o'r rhain hefyd yn symptomau ADHD, ac felly nid wyf bellach yn dewis meddwl amdanynt fel 'arferion drwg' e.e. dallineb amser, anghofrwydd, ysgogi (stimming) ac ati.
Fodd bynnag, mae gennyf un arferiad drwg nad yw'n gysylltiedig ag ADHD sef prynu a dod â gwrthrychau rhyfedd, iasol, swreal ac weithiau hyll i'm hamgylchynnu yn fy nghartref. Go brin eu bod nhw byth yn ddefnyddiol, ond alla i ddim eu gadael nhw heb gartref! Mae'n rhaid iddyn nhw ymuno â fy nghasgliad mawr o wrthrychau rhyfedd yn ein tŷ (sori Rhi!).
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Does gen i ddim attention span hir ar gyfer darllen llyfrau o glawr i glawr am bleser, ond allwn i ddim peidio rhoi When God Was A Rabbit gan Sarah Winman i lawr, felly byddaf bob amser yn argymell y nofel honno. Dwi'n caru'r ffilm Frida gyda Selma Hayek yn serennu. Dyna beth wnaeth wneud i mi syrthio mewn cariad â gwaith Frida Kahlo. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn gwrando ar bodlediad ADHDAF (ADHD As Females) tra'n gorwedd ar fy shakti matt. Mae ei sgyrsiau yn fy helpu i ymlacio, mae'n addysgiadol, ac mae'n fy atgoffa bod llawer o bobl yn y byd yn mynd trwy'r un profiadau â mi gyda diagnosis hwyr.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Mae'r rhan fwyaf o'r artistiaid gyda chorff o waith rwy'n edmygu yn gymeriadau MAWR, yn ddadleuol, ac yn llawn barn, felly dydyn nhw ddim yn y dewis gorau yfed gydan nhw!
Drwy fy Mam-gu, Valmai, nes i etifeddu fy diddordeb mewn byd natur, diddordeb mewn hen straeon y teulu, sgiliau darlunio, a chariad at batrwm a lliw. Roedd hi'n westeiwr mor gynnes ac yn gwneud pob achlysur yn hardd. Ar achlysuron arbennig, byddai'n cael gin a tonic slei, gwan wed'i pharatoi mewn gwydr crisial, ac yna wedi ei guddio tu mewn i fwrdd ochr allan o bren wedi'i gerfio'n gywrain. Pan nad oedd Dadcu yn edrych, byddai hi'n nôl y diod i mi a'i addurno â cheirios glacée (wrth gwrs)! Rhoddodd Mam-gu gwtsh ffantastig, a roedd hi'r cwmni gorau. Byddwn wrth fy modd yn cael G&T gyda hi eto, yn enwedig gan iddi farw pan roeddwn yn fy arddegau hwyr, ac mae cymaint wedi digwydd ers hynny. Roedd hi fel ail Mam i mi.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Pan oeddwn yn fy arddegau, chwaraeais i Suky Tawdry, rhan fach yn y Beggar's Opera gan Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Roedd gen i lais soprano uchel iawn cyn i mi gael pleurisy yn fy arddegau hwyr. Erbyn i mi gael fy llais canu yn ôl rhywfaint, roeddwn yn bendant wedi gostwng i lais alto, ac rydw i wedi bod yn canu gyda Côr CF1 ers bron i 20 mlynedd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Y cyfan dwi'n ei wybod ydi y byddwn i'n bendant eisiau bod yng nghwmni Rhi ac Ollie y ci, ein teulu bach o dri. Os yn bosib, byddwn i eisiau treulio peth amser gyda gweddill ein teulu agos hefyd, gan gynnwys fy nith un oed, Alys, sy'n berson mor llawen ac yn gwneud i mi chwerthin cymaint. Does dim ots beth rydyn ni'n ei wneud, boed hynny'n nofio yn y môr, yn tostio malws melys o amgylch y tân, yn mynd am dro mewn tirwedd hardd, yn cael pryd aml-gwrs anhygoel, neu'n eistedd yn gwely yn sgwrsio tra'n gwylio'r machlud haul trwy'r ffenestr ac yn gwrando ar yr adar. Y cwmni sy'n cyfri.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Dim ond lluniau a dynnwyd gan ein ffrindiau yn ein priodas sydd gennym gan doedden ni ddim yn gallu fforddio ffotograffydd proffesiynol ar y pryd. Felly, nid oes gennym y lluniau clasurol, gosodedig byddech chi'n disgwyl o briodas. Yn ffodus, cymerodd rhywun yr un yma o Rhi a minnau yn torri tŵr o olwynion caws a oedd gennym yn lle cacen briodas. Mae'r ddau ohonom wrth ein bodd â'r llun yma o un o ddyddiau pwysicaf ein bywydau. Ym mis Hydref eleni, byddwn yn dathlu 10 mlynedd o briodas.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Yn debyg iawn i'r Mabinogion, byddwn i eisiau cael y gallu i drawsnewid i anifail yn hytrach na pherson arall. Ein corgi, Ollie, sydd â'r bywyd gorau, felly hoffwn i fod yn Ollie am ddiwrnod! Yn ôl y straeon gwerin, dywedid bod corgis yn gerbydau i dylwyth teg Cymru gan eu bod yn isel i'r llawr, gyda marciau tebyg i gyfrwy ar eu cefn, a chlustiau digon mawr i glywed hyd yn oed creaduriaid bach, hudolus. Felly, os mai bod yn Ollie am ddiwrnod yw'r unig ffordd y gallaf gwrdd â bodau hudolus fel tylwyth teg tra'n moonlight-io fel cerbyd iddynt, amdani!
Hefyd o ddiddordeb: