Ateb y Galw: Hywel Gwynfryn
- Cyhoeddwyd
Un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus Cymru, Hywel Gwynfryn, sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma.
Cafodd Hywel ei eni yn Llangefni, Ynys Môn a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd.
Fe ymunodd a'r BBC yn 1964 fel cyflwynydd ac mae wedi bod yn llais cyfarwydd ar donfeddi'r radio ac ar y teledu ers chwe degawd ar raglenni fel Heddiw, Helo Sut Da Chi?, Bilidowcar, Helo Bobol, Rhaglen Hywel Gwynfryn, Hywel a Nia a'i raglen dydd Sul a ddaeth i ben yn 2023.
Yn 1990, cyflwynodd raglen deledu Ar Dy Feic oedd yn dilyn hanes teuluoedd oedd wedi symud o Gymru i ddilyn eu breuddwyd mewn amryw fannau yn y byd.
Mae o wedi ysgrifennu geiriau i nifer o ganeuon pop, yn ogystal â phedwar pantomeim, a'r ffilm Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig ar gyfer S4C.
Mae Hywel hefyd yn awdur neu gyd-awdur ar sawl llyfr, sy'n cynnwys hunangofiant Margaret Williams; cofiannau David Lloyd, Hugh Griffith a Siân Phillips; a chyfrol am hanes Ryan a Ronnie.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Gweld fy nhad yn sefyll wrth y bwrdd yn nhŷ fy Nain, wedi ei wisgo yn ei iwnifform - Capten llong yn y Merchant Navy.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd. Dwi yma ers 1961, ac yn caru popeth am y ddinas, yn enwedig y tai bwyta Indiaidd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Mewn Mardi Gras yn Rio de Janeiro - ac mi roeddwn i'n cael fy nhalu am fod yno!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Hyderus, emosiynol, byrbwyll.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Gweld fy hun ar gefn beic penny farthing yn reidio i lawr Oxford Street yn Llundain, ac yn methu stopio, nes i mi afael mewn polyn lamp ar ochr y ffordd. Mae'r digwyddiad i'w weld ar Youtube.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cerdded allan o siop yng Nghaerdydd wedi prynu crys - ond heb dalu amdano fo. Bwriadu mynd yn ôl i'r siop y diwrnod wedyn - ond es i ddim. Tydi'r siop ddim yn bod bellach - na'r crys!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Yn gwylio rhaglen ddogfen am Graeame Souness, un o gyn chwarawyr tîm pêl-droed Lerpwl yn nofio ar draws y sianel i godi ymwybyddiaeth ac arian i gynorthwyo Isla, sy'n dioddef o afiechyd y croen sy'n golygu ei bod hi mewn poen cyson bob awr, o bob dydd am weddill ei hoes.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Hoff ffilm: The Magnificent Seven. Yn enwedig yr olygfa lle mae James Coburn yn tanio'i wn at y cowboi drwg yn y pellter sy'n dianc ar gefn ei geffyl ac yn ei saethu. Mae un o'r cowbois yn troi at Coburn ac yn dweud "That was a good shot". "No it wasn't", meddai Coburn "I was aiming for the horse".
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Fel dwi'n mynd yn hŷn, dwi'n mynd yn fwy diamynedd efo pobl aniddorol. Ac mae'r byd 'ma yn llawn ohonyn nhw.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Clint Eastwood. Mae o'n 93 ac mae ei agwedd o at fywyd yn un iach iawn. "Age? They're just numbers after my name. They don't tell you anything about me."
Ond os ydw i'n cael dewis mwy nag un, yn syml iawn - y teulu. Ar y dealltwriaeth mai Cymru Fyw sy'n talu oherwydd bellach mae 'na dri ar ddeg ohonyn nhw - saith o blant a chwech o wyrion.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fe aeth fy nhadcu o Gydweli, draw i Batagonia ar yr ail long achos roedd o wedi clywed fod John ac Alun yn canu ar y Mimosa.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd ar fy mhenaglinia' a gofyn a fasa hi'n bosib rhywsut yn y byd i mi gael ail-fyw y cyfan i gyd. Dwi wedi cael amser mor dda ac wedi bod mor lwcus.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae 'na lun o Anja a finna tu ôl iddi yn ei gwasgu'n dynn. Pam y llun yna? Wel, oherwydd mai'r llun yma oedd yr ybrydoliaeth i'r gân oedd yn ddilyniant i Anfonaf Angel sef Fel Hyn am Byth. Ddusish i mod i'n berson emosiynol, yn do?
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Gan mai dychmygol fyddai'r sefyllfa, ac felly dwi'n dychmygu mod i'n gallu chwarae'r drymiau yn arbennig o dda. Ac am un noson yn unig, fi fyddai drymar y Rolling Stones yn Stadiwm Caerdydd a'r gân gynta yn y set fasa Honky Tonk Woman.
Hefyd o ddiddordeb: