Ymgyrchwyr yn herio gorsaf pwmpio dŵr Caerdydd yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu gorsaf pwmpio dŵr yn un o barciau Caerdydd wedi mynd â'u hachos i'r llys.
Mae adolygiad barnwrol wedi dechrau i herio penderfyniad Cyngor Caerdydd i roi caniatâd cynllunio ar gyfer yr orsaf ar Barc Hailey yn Ystum Taf.
Mae Dŵr Cymru eisiau adeiladu'r orsaf i ddelio â dŵr gwastraff o ddatblygiad tai Plasdwr yn ardal Radur, lle mae hyd at 7,000 o gartrefi yn mynd i gael eu hadeiladu.
Ond mae Cymdeithas Trigolion Ystum Taf wedi dwyn achos cyfreithiol, gan ddadlau nad oedd y cyngor wedi dilyn y drefn gywir wrth roi caniatâd cynllunio.
'Dafydd yn erbyn Goliath'
Mae ymgyrchwr yn dadlau nad Parc Hailey yw'r lleoliad cywir ar gyfer gorsaf o'r fath.
"Parc y gymuned yw e," meddai Gill Griffin, sy'n byw ger Parc Hailey.
"Bydd cael pwmp carthffosiaeth yno yn distrywio'r parc.
"Mae teimlad cryf iawn yn y gymuned yn erbyn y fath gynllun.
"Ry'n ni 'ma heddiw i brotestio yn erbyn y cynllun ei hunan a'r ffaith fod Cyngor Caerdydd yn meddwl dim am y gymuned - i ni mae e fel brwydr Dafydd yn erbyn Goliath."
Mae disgwyl i'r adolygiad barnwrol bara deuddydd, gyda'r penderfyniad terfynol i ddod yn yr hydref.
Dywedodd Cyngor Caerdydd a Dŵr Cymru nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw pellach tra bo'r achos cyfreithiol yn mynd yn ei flaen.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022