Rheinallt ap Gwynedd: 'Camp ryfeddol' y Tour de France

  • Cyhoeddwyd
Rheinallt ap GwyneddFfynhonnell y llun, Rheinallt ap Gwynedd

"Mae 'na rhyw hud a lledrith yn ran o'r ras yma sy'n neud e mor sbeshal, a dyna beth sy'n denu miliynau o bobl bob blwyddyn am dair wythnos ym mis Gorffennaf."

Y Tour de France yw'r ras sy'n llawn hud a lledrith yn ôl y cerddor a'r sylwebydd seiclo Rheinallt ap Gwynedd, sy'n sylwebu ar y ras eleni i S4C am y degfed tro.

Mae Rheinallt, sy'n dod o Grymych yn wreiddiol ond yn byw yn Llundain ers 30 mlynedd, yn angerddol am gyffro y gystadleuaeth, sy' wedi cychwyn ar 1 Gorffennaf: "Mae'n ras enfawr sydd pen ag ysgwyddau yn uwch na unrhyw fath arall o ras yn ystod y tymor.

"Un o'r sioeau chwaraeon mwya' yn y byd, mae fe lan 'na 'da'r Gemau Olympaidd a Chwpan y Byd pêl-droed. Mae'r hanes sy'n ran o'r ras ei hun a ti'n gallu gweld e yn y ffans ac yn y beicwyr eu hunain, mae eu hagwedd nhw yn newid pan maen nhw'n dod yn ran o'r ras yma.

"Mae'r ras mor hanesyddol ac wedi tyfu yng nghalonnau nid yn unig y cefnogwyr ond hefyd pobl sy' falle ddim yn dilyn seiclo trwy gydol y flwyddyn."

'Arwyr go iawn'

I Rheinallt, mae'r seiclwyr yn arwyr sy'n gwthio eu cyrff i'r eithaf: "Mae'n gamp o ran seiclo proffesiynol, mae'n gamp rhyfeddol i fi.

"I fi mae'r seiclwyr yma yn arwyr go iawn. Falle byddai'r beicwyr ddim ishe cael eu disgrifio fel arwyr ond i fi dyna'n union ydy nhw. Mae'n gamp peryglus dros ben a dim ond lycra mae'r bois a'r merched yn gwisgo gan fynd ar gyflymdra uchel.

"Mae 'na gymaint o barch 'da fi at y seiclwyr yma - yr hyn maen nhw'n mynd trwyddi o ddydd i ddydd tra'n rhoi gwên ar ein wynebau ni. O'r campau i gyd dwi wedi gwylio yn fy mywyd dwi yn rhoi seiclo ar rhyw pedestal arbennig, yn uwch na'r campau eraill achos y syndod yna o'u gallu nhw sy'n feunyddiol i fi.

"Mae fe'n rhoi rhyw egni i'r galon bob tro a dwi'n ddiolchgar iawn am hynny, yn enwedig bod fi wedi cael y cyfle i sylwebu ar y gamp."

'Gwyddbwyll yr olwynion'

Yr uchafbwynt i Rheinallt yw'r rhannau hynny o'r ras sy' yn yr uchelfannau: "Dringo dwi'n hoffi fwyaf - y cymalau 'na lle mae'r gwanaf wedi cael eu gollwng ac mae 'da ti lond llaw o'r goreuon yn cwffio â'u gilydd yn yr uchelfannau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Sais Tom Pidcock ar y ffordd i ennill cymal Alpe d'Huez yn ystod Tour de France 2022. Alpe d'Huez yw un o'r cymalau dringo mwyaf eiconig yn y byd seiclo

"Ti'n gorfod edrych mewn i'w llygaid nhw i weld pwy sy' yn gryf, pwy sy' yn wan, pwy sy' yn gwanhau ond cuddio hynny - gwyddbwyll yr olwynion mae pobl yn hoff o alw seiclo ac mae hwnna yn asio yn berffaith i fi.

"A dyna'r man gorau bron i weld hynny yn dod yn fyw ar y sgrin yw yn yr uchelfannau gyda llond llaw o feicwyr ac wedi hynny mae'r gwaith yn dechrau."

Cerddoriaeth

Yn ogystal â sylwebu a chyflwyno podlediad seiclo Y Dihangiad, mae Rheinallt yn chwarae'r gitâr i fand Apollo 440. Yn cydsylwebu gyda fe fel rhan o dîm sylwebu S4C ar y Tour de France mae ei frawd hŷn, Peredur ap Gwynedd, sy'n rhannu ei angerdd am seiclo ac hefyd yn gitarydd gyda'r band Pendulum.

Disgrifiad o’r llun,

Y brodyr Peredur a Rheinallt gyda Huw Stephens rhai blynyddoedd yn ôl

Pam felly fod y ddau frawd o Grymych wedi dilyn llwybrau mor debyg yn eu diddordebau a'u gyrfa?

Yn ôl Rheinallt: "Dyna beth diddorol - fel cymeriadau ac o ran diddordebau allanol ni'n gwbl wahanol. Ond mae'r pethau sy'n uno ni sef cerddoriaeth yn gyntaf ac wedyn seiclo yn tynnu yr holl beth at ei gilydd.

"Mae yn sefyllfa od ac er bod ni'n dod mlaen 'da'n gilydd mor dda mae'r ffaith bod ni'n wahanol fel pobl yn ticlo fi braidd.

"Mae'n od ond od mewn ffordd neis iawn."

Teulu

Mae'r brodyr wedi bod yn cydweithio fel cerddorion ers eu dyddiau yn Ysgol y Preseli yn chwarae mewn grŵp roc trwm o'r enw Mellt a Tharanau. Roedd eu sesiwn recordio cyntaf nhw yn stiwdio Fflach gyda'r diweddar Wyn a Richard Jones, cerddorion Ail Symudiad.

Fel mae Rheinallt yn dweud: "Nhw 'nath roi'r cyfle cyntaf i ni. Wyn oedd y cyntaf i recordio ni ond yn hwyrach yn ein byd proffesiynol 'nes i a Peredur chwarae gyda'n gilydd eto yn grŵp Natalie Imbruglia.

"Mae 'na rhywbeth sy' yna sy' heb angen ei ddweud a mae hwnna wedi cael ei feithrin wrth gwrs ers ein plentyndod ni. Mae 'na rhyw gytseinio naturiol ac oedd hwnna wastad yn 'neud y gwaith gymaint yn rhwyddach. Roedd golwg neu winc fach - doedd ddim angen geiriau."

Plentyndod

Dechreuodd diddordeb y ddau i seiclo fel plant: "Dwi a Peredur wastad wedi seiclo ers yn blant bach - rhywbeth organig 'nath ddablygu dros amser oedd e.

"Dros y blynyddodd 'nath y gamp sugno ni mewn a wedyn sylweddoli mod i'n deall seiclo lot yn well na'r campau eraill. Gyda seiclo dwi'n un â'r gamp - oedd e'n rhywbeth oedd wastad yn mynd i fod yna.

"Dwi erioed wedi rasio - rhywbeth i fwynhau'r awyr iach ac i gadw'n heini yw seiclo i fi. Cael fi mas o'r tŷ ac yn enwedig i rywun o'n oedran i - mae'n ddefnyddiol iawn o ran iechyd corfforol a meddyliol."

Uchafbwynt

Yn 2018 roedd y ddau yn gweithio i dîm sylwebu S4C pan enillodd Geraint Thomas y Tour de France: "Oedd hwnna yn foment sbeshal yn gwybod bod gang bach o ni mas 'na gyda camerâu a meicroffonau a bod ni yn galw'r holl beth yn y stiwdio trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Oedd hwnna yn fythgofiadwy, fod yr holl beth wedi dod at ei gilydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yn dathlu ennill y Tour de France, 29 Gorffennaf 2018

Ond er gwaetha'r munudau arbennig hyn ym myd seiclo, cerddoriaeth yw blaenoriaeth Rheinallt o hyd: "Cerddoriaeth yw'r peth sy'n tanio'r enaid ac wedi bod ers mod i'n blentyn bach. Mae'r ddau yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r galon, i'r meddwl ac i'r enaid.

"Yn y diwedd does dim angen cymharu - mae 'na ddigon o le i'r ddau yn yr enaid hon. Taswn i'n gorfod gadael un ar ochr yr hewl a cadw'r llall, cerddoriaeth fyddai rhaid cadw yn y diwedd.

"Cerdd sy'n creu fi fel unigolyn a 'nath greu fi fel unigolyn degawdau yn ôl."

Mae S4C yn darlledu'r Tour de France yn ddyddiol o Gorffennaf 1 ymlaen gyda rhaglen uchafbwyntiau gyda'r hwyr.

Pynciau cysylltiedig