Arolygydd heddlu wedi marw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd

Roedd yr Arolygydd Gareth Earp yn dad i dri o feibion
Mae un o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad brynhawn Iau.
Bu farw'r Arolygydd Gareth Earp, oedd yn teithio adref o'i waith, yn y fan a'r lle ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A470 rhwng Llangurig a Rhaeadr Gwy tua 16.50.
Dywedodd y llu fod yr Arolygydd Earp yn swyddog "poblogaidd ac uchel ei barch", a'i fod wedi gwasanaethu gyda'r heddlu am 21 mlynedd.
Mae'n yn gadael gwraig, Tamsin, a thri mab - Ethan, Theo a Joel.
Cafodd gyrrwr gwrywaidd y cerbyd arall ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty, lle mae'n parhau i dderbyn triniaeth.
Mae'r llu'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad, rhwng VW Golf du a Range Rover Sport du, ac yn apelio am wybodaeth.