Ethol llywydd newydd i Undeb Amaethwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Ian RIckmanFfynhonnell y llun, UAC

Mae ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi ei ethol yn llywydd newydd ar Undeb Amaethwyr Cymru.

Cafodd Ian Rickman ei ddewis yn unfrydol mewn cyfarfod o'r undeb yn Aberystwyth.

Mae'n olynu Glyn Roberts fel llywydd, ar ôl iddo yntau fod yn y swydd am wyth mlynedd.

Mae Mr Rickman yn cadw defaid ac yn magu lloi Wagyu yn ardal Llangadog.

Dechreuodd ymwneud â'r undeb ar ddiwedd yr 80au, ac fe gafodd ei benodi'n gadeirydd sir yn 2010, is-lywydd rhanbarth de Cymru yn 2017 ac yna Dirprwy Lywydd yn 2019.

Diolchodd i Glyn Roberts am ei waith, gan ddweud bod yr "esgidiau sydd gennyf i'w llenwi yn enfawr".

Dywedodd bod angen "eglurder ar frys" ar gyllid i ffermwyr yng Nghymru, gan ei bod yn "anodd iawn" cynllunio ar ôl 2024.

"Mae llawer o fy ngwaith yn y dyfodol agos yn mynd i ganolbwyntio ar gael eglurder ar hyn i'n haelodau."

Mae TB mewn gwartheg hefyd yn bryder iddo, a dywedodd y bydd yn parhau'n "broblem i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr os na fydd dim yn newid".

"Byddwn yn gweithio gyda'r prif filfeddyg newydd a Llywodraeth Cymru i barhau i geisio dod o hyd i atebion ymarferol i'r mater."

Ychwanegodd mai un o'i uchelgeisiau ar gyfer ei dymor fel llywydd ydy annog mwy o aelodau ifanc i'r undeb, er mwyn sicrhau "olyniaeth".

"Fodd bynnag, mae rhwystrau i olyniaeth yn yr Undeb a byddaf yn gweithio gyda'r tîm i'w datrys er mwyn i'r Undeb allu parhau i fod yn ffyniannus a chynaliadwy, gan sicrhau bod gennym ni ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yma yng Nghymru."

Pynciau cysylltiedig