'Gwead cefn gwlad am ddioddef heb fwy o arian'
- Cyhoeddwyd
Os bydd Llywodraeth Cymru yn methu â pharhau i roi arian i'r diwydiant amaeth yn y dyfodol "bydd gwead cefn gwlad, y diwylliant a'r iaith" yn dioddef.
Dyna farn Glyn Roberts ar ei ddiwrnod olaf fel llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ar ôl bod yn y swydd am wyth mlynedd.
Wrth iddo baratoi i basio'r awenau, pwysleisiodd bwysigrwydd y diwydiant amaeth fel rhan o economi Cymru wledig.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd y Bil Amaeth a basiwyd yr wythnos hon yn darparu cymorth "uchelgeisiol a thrawsnewidiol i ffermwyr" a "gwarchod a gwella cefn gwlad, diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg".
'Colli iaith, diwylliant a phobl gynhenid'
Dywedodd Mr Roberts wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru: "Dwi'n derbyn bod y diwydiant amaeth yn cael llawer iawn o bres ond lle mae'r pres yna'n mynd?
"Mae'r ffermwr yna yn gwario'r pres yn y gymuned ar y milfeddyg, y mecanic, ar brynu blawd, ar wrtaith.
"Mae'r gwead cymdeithasol yna yn rhan annatod o le mae'r pres yn mynd.
"Felly mi faswn i'n dadlau, dim pres i amaeth ydy o, ond pres i gynnal cefn gwlad.
"Os fethith y llywodraeth â chadw'r pres yna mewn amaeth 'da ni mewn peryg o golli iaith, diwylliant a phobl gynhenid yn byw yng nghefn gwlad.
Cyfeiriodd hefyd at bolisi Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050, gan ddweud bod arian i'r diwydiant amaeth yn rhan annatod o'r cynllun hwnnw.
Wrth edrych nôl ar ei gyfnod dywedodd Mr Roberts - sy'n ffermio yng Nghwm Eidda ger Ysbyty Ifan - ei fod wedi wynebu sawl her, gan gynnwys gweld costau amaethyddol yn cynyddu'n sylweddol, effaith y pandemig a'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Adeg Brexit mi fuon ni yn Llundain llawer iawn ac roedd y cyffro yn Llundain yr amser hynny yn rhywbeth na fydda i fyth yn anghofio," meddai.
"Mi wnes i wir fwynhau'r her o geisio argyhoeddi rhai aelodau seneddol o oblygiadau Brexit, ond yn amlwg mae'r wlad wedi dewis ac mae'n rhaid parchu hynny."
'Dwi'n teimlo'n lwcus iawn'
Yn ystod ei lywyddiaeth mae ei ferch Beca wedi cymryd awenau'r fferm.
Mi raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn ystod yr union wythnos ag y dechreuodd ei thad fel llywydd.
"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn," meddai Beca.
"Mi ges i'r cyfrifoldeb yn syth pan ddes i adra o Aber.
"Dim pawb sy'n d'eud eu bod nhw wedi cael hynny, ac mae Dad wedi rhoi'r rhyddid i mi drio petha' newydd."
Wrth edrych tua'r dyfodol - a dymuno'n dda i'r tîm newydd fydd wrth lyw yr undeb - mae Mr Roberts yn dweud bod pob newid yn rhoi her a chyfle.
Mae'n derbyn bod lle i geisio cydweithio'n well â rhai amgylcheddwyr sydd - yn ei farn o - ddim bob amser yn deall sut mae amaeth yn gweithio.
"O'm mhrofiad i hefo llawer iawn o'r bobl amgylcheddol, maen nhw'n codi bwganod oherwydd y diffyg gwybodaeth am sut mae amaeth yn gweithio," meddai.
"Ond mae'n bwysig edrych ymlaen - gadewch i'r diwydiant amaeth gynhyrchu gyda'r cydbwysedd cywir ac edrych ar ôl y cyflenwad bwyd - a gwneud hynny mewn ffordd sy'n amgylcheddol gyfeillgar."
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r Bil Amaeth, y cyntaf erioed i’w wneud yng Nghymru, a basiwyd gan y Senedd yr wythnos hon, yn rhoi cymorth uchelgeisiol a thrawsnewidiol i ffermwyr gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ac i warchod a gwella cefn gwlad, diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg.
“Mae camau gweithredu i gefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, gwella bioamrywiaeth, a chryfhau’r economi wledig yn rhan o gynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn cychwyn yn 2025.
"Trwy gydweithio, gallwn wneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig a chymryd camau sylweddol i daclo'r argyfyngau hinsawdd a natur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022