Dyn 62 oed o Resolfen wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad

  • Cyhoeddwyd
A465Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A465 rhwng Aberdulais a Resolfen am tua 13:30 ddydd Sul

Mae dyn 62 oed o Resolfen wedi marw mewn gwrthdrawiad.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar yr A465 rhwng Aberdulais a Resolfen am tua 13:30 ddydd Sul.

Bu farw'r dyn, a oedd yn gyrru beic cwad oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, yn y fan a'r lle.

Dywedodd y llu heddlu bod yr ymchwiliad i'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig