Ysgol feddygol Bangor yn 'gwneud gwahaniaeth yn barod'

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Ers 2019 mae darpar feddygon wedi gallu astudio'r rhan helaeth o'u cwrs ym Mhrifysgol Bangor

Mi fydd gan ysgol feddygol ym Mangor ran "gwbl hanfodol" wrth geisio diogelu'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, yn ôl un gwleidydd lleol. 

Yn ôl yr Aelod o Senedd Cymru, Siân Gwenllian mae manteision sefydlu cwrs hyfforddi i feddygon ym Mangor eisoes i'w gweld mewn meddygfeydd ac ysbytai lleol, gyda darpariaeth Gymraeg yn ganolog. 

Ers 2019 mae darpar feddygon wedi gallu astudio y rhan helaeth o'u cwrs ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth a Phrifysgol Caerdydd. 

Ond erbyn 2024 mi fydd modd astudio pob agwedd o'r cwrs yn y gogledd a hynny am y tro cyntaf.

Eleni mi fydd y criw cyntaf o fyfyrwyr wnaeth ddechrau'r cwrs ym Mangor yn 2019 yn graddio, ac yn dechrau ar yrfaoedd ym myd meddygaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenllian Roberts wedi penderfynu aros yn ardal Bangor am gyfnod ar ôl graddio

Un o rheiny ydy Gwenllian Roberts sy'n wreiddiol o Gaerdydd.

Ar ôl astudio'i chwrs ym Mangor mae hi'n dweud ei bod rŵan wedi penderfynu aros yn y gogledd am rai blynyddoedd ar ôl iddi fagu perthynas gyda chydweithwyr ac ysbytai lleol. 

"Mae'r cwrs yn bendant wedi newid meddwl fi am le dwi eisiau gweithio", meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi'n ferch o Gaerdydd, ond wedi bod ym Mangor am bedair blynedd a bellach yn bwriadu byw yma am o leiaf ddwy flynedd os nad yn fwy - ma'n gylch cyflawn ac yn neis gallu rhoi yn ôl."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elen Sanpher ei bod yn falch gallu cynnig cymorth i gleifion yn eu mamiaith

Heb deithio mor bell, mae Elen Sanpher o Ynys Môn hefyd wrthi'n paratoi i raddio yn yr wythnosau nesaf. 

Fe astudiodd hithau am flwyddyn yng Nghaerdydd cyn penderfynu dod yn ôl tuag adre.

"Mae gennai lot o ffrindiau sy'n dod o'r de ac maen nhw hefyd wedi penderfynu aros yma oherwydd y gefnogaeth 'da ni wedi cael hyd yma," meddai.

Fel rhan o'r cwrs newydd mi fydd myfyrwyr yn cael cynnig i astudio darnau drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd hefyd profiad gwaith ar gael drwy'r iaith.

"'Da ni'n gallu siarad 'efo cleifion yn eu mamiaith pan maen nhw ar eu hadegau mwyaf bregus... ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n falch dwi wedi gallu cynnig i gleifion tra dwi yma", meddai Elen.

'Angenrheidiol' hyfforddi mwy o feddygon

Gyda dathliadau ar y gweill i nodi 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae'r myfyrwyr a'r ddarpariaeth ym Mangor yn edrych tua'r dyfodol er mwyn gwarchod gofal iechyd yr ardal am ddegawdau i ddod.

Yn ôl un meddyg teulu o Ynys Môn mae'r ysgol feddygol newydd yn hollbwysig wrth gofio fod nifer y meddygon ledled y wlad yn is na'r angen. 

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Harri Pritchard fod angen "hyfforddi meddygon yn lleol i aros yn lleol"

"Mae'n angenrheidiol dydi", meddai Dr Harri Pritchard - sy'n hyfforddi darpar feddygon yn Amlwch.

"Mae 'na brinder mawr o feddygon yng ngogledd Cymru yn barod ond 'da ni'n gwybod dros y blynyddoedd nesaf mi fydd 'na lawer iawn yn ymddeol felly mae'n angenrheidiol ein bod ni'n hyfforddi meddygon yn lleol i aros yn lleol."

'Gweld newid yn barod'

Un fu'n ymgyrchu dros sefydlu'r ysgol feddygol oedd AS Arfon, Siân Gwenllian. 

Mae'n dweud fod budd hyfforddi meddygon yn y ddinas eisoes yn cael ei deimlo mewn ysbytai a meddygfeydd ar draws y gogledd.

Disgrifiad o’r llun,

Teimla Sian Gwenllian fod yr ysgol feddygol newydd yn "gwbl hanfodol"

"Mae 'na wahaniaeth i'w weld yn barod," meddai. 

"Dwi 'di credu yn hyn o'r cychwyn cyntaf."

"Mi o'n i'n grediniol fod angen i ni fod yn hyfforddi meddygon ym Mangor, yn y gogledd, er mwyn diwallu'r angen sydd 'na ar draws yr ardal yma."

Does dim amheuaeth fod y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd ledled Cymru yn enfawr ond gyda meddygon y dyfodol yn dod i Fangor i astudio mae gobaith y bydd modd diogelu gwasanaethau'r gogledd am ddegawdau i ddod.