Modd cwblhau gradd meddygaeth lawn ym Mangor o 2024

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r myfyrwyr sydd eisoes yn astudio rhan o'u gradd meddygaeth ym Mangor eleni

O fis Medi 2024 bydd modd cwblhau gradd meddygaeth lawn ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o gynlluniau i sefydlu Ysgol Feddygaeth newydd yng ngogledd Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu hyfforddiant i hyd at 140 o fyfyrwyr pob blwyddyn, a'r gobaith ydy helpu i ddatrys problemau recriwtio a denu mwy o feddygon ifanc i hyfforddi a gweithio yn yr ardal.

Mae'r cwrs presennol ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, gyda graddedigion yn treulio eu blwyddyn gyntaf yn y brifddinas cyn trosglwyddo i'r gogledd dan y cynllun C21.

Ond o'r flwyddyn nesa' bydd modd astudio o'r cychwyn ym Mangor, a hynny'n syth o'r ysgol.

Esboniodd cyfarwyddwr y rhaglen, Dr Nia Jones: "O fis Medi 2024 fydd Bangor yn gallu derbyn disgyblion newydd wneud Lefel A, yn dod yma yn eu blwyddyn gynta' a gallu gwneud eu pum mlynedd o astudio addysg feddygol efo ni ym Mangor.

"Mi fyddan nhw'n graddio efo gradd o Brifysgol Bangor."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Nia Jones ei bod yn bwysig "gweithio efo'n gilydd ac efo Prifysgol Caerdydd"

Yn ôl Dr Jones, mae hon wedi bod yn "broses sy'n hir yn dod" ac mae llawer o waith paratoi wedi'i wneud, ond mae'n cydnabod bydd 'na heriau hefyd.

"Mae 'na bryderon," meddai.

"'Da ni'n gwybod am sefyllfa'r GIG ar hyn o bryd ond 'da ni'n cydweithio a dyna ydy'r peth pwysica', bod ni'n gweithio efo'n gilydd ac efo Prifysgol Caerdydd.

"Maen nhw'n mynd i fod yn gefn i ni drwy hyn i gyd."

Cadw meddygon yn y gogledd

Un o'r prif amcanion ydy taclo'r problemau recriwtio yng ngogledd Cymru a'r prinder meddygon sy'n aros yma i weithio.

Er bod niferoedd y meddygon teulu ar draws Cymru, er enghraifft, wedi cynyddu rhywfaint dros y blynyddoedd, dolen allanol, mae'n her i recriwtio mewn ardaloedd mwy gwledig fel gogledd Cymru.

Yn ôl ffigyrau diweddara' Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, mae yna dros 28 o swyddi meddygon teulu llawn amser gwag yn y meddygfeydd sy'n cael eu rheoli gan y bwrdd, a'r bylchau yn cael eu llenwi gan feddygon dros dro.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cwrs ym Mangor yn rhoi pwyslais ar feddygaeth gymunedol

Un peth sy'n unigryw am y cwrs ym Mangor ydy bod 'na fwy o bwyslais ar feddygaeth gymunedol, gyda myfyrwyr yn treulio blwyddyn gyfan mewn meddygfeydd teulu.

Mae Canolfan Iechyd Amlwch ar Ynys Môn wedi bod yn derbyn myfyrwyr dros y blynyddoedd diwetha'.

Yn ôl un o'u meddygon teulu, Dr Harri Pritchard, maen nhw wedi elwa o'r profiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Harri Pritchard yn sicr y bydd y datblygiad yn hwb i'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd

"Yn sicr mae 'na broblem recriwtio yma yn y gogledd ac yn sicr mae'r myfyrwyr sydd wedi bod ym Mangor wrth eu boddau efo gogledd Cymru, efo pobl gogledd Cymru, a gobeithio wnawn nhw aros yng ngogledd Cymru," meddai.

"Faint o fyfyrwyr meddygol sydd 'na dwi 'di cyfarfod dros y blynyddoedd fyddai wedi hoffi bod yma ym Mangor i ddysgu'u crefft drwy gyfrwng y Gymraeg ond wedi methu a gorfod mynd i Fanceinion neu Lerpwl, yn lle cael dod i'w mamwlad a defnyddio eu mamiaith?"

'Rhoi yn ôl i'r gymuned'

Mae rhai o'r myfyrwyr sydd eisoes wedi astudio rhan o'u cwrs ym Mangor hefyd yn croesawu'r datblygiad.

Dywedodd Sion, o Gaerdydd, fod cael y profiad o ardal newydd a gweithio mewn cymunedau wedi agor ei feddwl i fod "mo'yn aros yn y gymuned a chyfrannu tuag at ofal iechyd yng ngogledd Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sion yn dod o Gaerdydd, ond wedi dewis astudio rhan o'i radd meddygaeth ym Mangor

Mae Elen, o Fangor, wedi bod yn falch o'r cyfle i ddod 'nôl adre' i astudio ar ôl bod yn Lerpwl a Chaerdydd.

Meddai: "Mae 'di rhoi'r cyfle i fi roi yn ôl i'r gymuned o le dwi'n dod a mae hynny 'di bod yn bleser.

"Da' ni'n cael siarad efo cleifion yn eu mamiaith, pan maen nhw ar eu mwya' bregus, a chael deall anghenion y cymunedau lleol hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elen wedi bod yn falch o'r cyfle i ddod 'nôl adre' i astudio ar ôl bod yn Lerpwl a Chaerdydd

Bydd y cwrs ym Mangor yn cael ei ehangu yn raddol er mwyn rhoi cyfle i'r brifysgol ddatblygu'r ddarpariaeth.

Yn ôl Dr Eilir Hughes, sy'n feddyg teulu ym Mhen Llŷn, mae'n bwysig sicrhau bod safonau'n cael eu cynnal.

Meddai: "Dydy pob math o feddygaeth ddim yn cael ei ymarfer yng ngogledd Cymru, ond dydy hynny ddim yn rhwystro chi rhag gallu rhoi'r cwrs gradd sylfaenol pum mlynedd i feddygon iau o gwbl.

"Be' sy' angen gwneud yn siŵr ydy bod ni ddim yn gostwng ein safonau, bod ni'n cynnal safonau fel ydy'r disgwyl yn ysgolion meddygol eraill.

"Ydy, mae'n mynd i fod yn her i ddenu rhai o'r ymgeiswyr mwya' talentog falla, ond dydy hynny ddim yn rheswm pam na fedrwn ni yn y pendraw fod yn gallu cystadlu efo rhai o'r ysgolion meddygol mwya' adnabyddus ym Mhrydain."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Eilir Hughes ei fod yn gobeithio y bydd modd "cystadlu efo rhai o'r ysgolion meddygol mwya' adnabyddus"

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Bydd rhoi'r cyfle i fyfyrwyr astudio mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru'n sicrhau ein bod yn darparu'r staff meddygol ry'n ni angen i'r dyfodol.

"Rwy'n falch bod cymaint o fyfyrwyr yn gallu astudio yng ngogledd Cymru ac rwy'n gobeithio byddan nhw'n aros yn y cymunedau hynny ar ôl eu hastudiaethau.

"Mae hyn yn newyddion da i'r myfyrwyr, i bobl y gogledd ac i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ac mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos at gartrefi pobl â phosibl."

Bydd Ysgol Feddygol Gogledd Cymru'n cael ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.